Rydym yn aml yn chwilio am ffyrdd gwahanol o helpu elusennau, a daethom ar draws y syniad Gefeillio Toiledau y mis diwethaf yn ein hoff far newydd, y Potel a’r Baril/Bottle and Barrel  yn Aberystwyth. Syniad syml, ond un fydd, gobeithio, yn effeithiol iawn. Wedi cael cip olwg ar y wefan aethom ati i efeillio toiled ein swyddfa ar unwaith.

Am ddim ond £60.00, gallwch helpu ddechrau adwaith cadwyn sy’n newid cymunedau – boed hynny drwy ariannu toiled a glanweithdra newydd neu drwy addysgu cymunedau am iechyd a diogelwch glanweithdra. Wrth gwrs, mae gwefan Gefeillio Toiledau yn cynnwys llawer mwy o wybodaeth nag y gallwn ei bostio yn ein blog, felly awgrymwn eich bod yn cymryd spec, a pham ddim gefeillio eich toiled tra da chi wrthi?

Yn Kabale, Uganda mae ein toiled gefeilliedig ni!