Os ydych yn rhedeg busnes (ar-lein neu’n gorfforol), yna dylech sicrhau bod defnyddio Google My Business yn rhan hanfodol o’ch marchnata ar-lein, ac mae’n un nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ohono.

Offeryn am ddim a gynigir gan Google yw Google My Business, sy’n caniatáu ichi reoli’r wybodaeth y maent yn ei deall am eich busnes.

Pam mae’n bwysig?

Ar hyn o bryd, mae  dros traean y chwiliadau ar Google yn bobl sy’n chwilio am eitemau, busnesau neu sefydliadau sy’n lleol iddynt – gelwir hyn yn chwiliadau “bwriad lleol”. Yn ogystal, bydd 72% o “chwilwyr” yn ymweld â siop o fewn radiws 5 milltir i’r man lle gwnaethant y chwiliad.

Golyga hyn bod y rhan fwyaf o bobl yn chwilio am eitemau, busnesau a sefydliadau sy’n lleol iddynt. Sawl gwaith ydych chi wedi chwilio “caffi yn fy ymyl nawr”? Os ydy’ch lleoliad cywir a’ch amseroedd agor ar eich rhestr Google, byddwch yn ymddangos yn y canlyniad hwnnw. Bydd Google hyd yn oed yn helpu’r cwsmeriaid i gerdded trwy’r drws trwy roi cyfarwyddiadau iddynt.

Sut mae mynd ati?

Y peth cyntaf i’w wneud, os na wnaethoch eisoes, yw “hawlio” eich busnes. Gallwch wneud hyn trwy fewngofnodi gyda’ch cyfrif Google i “business.google.com”, a dilyn y dewin yno i chwilio am, ac yna hawlio, eich busnes. Gallwch hefyd greu busnes o’r dechrau. Ar ôl i chi gofrestru, mae’n debyg y bydd Google eisiau anfon cerdyn post atoch sydd â chod arno, a fydd yn gwirio’ch lleoliad.

Cwblhau y Tasgau

Unwaith byddwch wedi’ch sefydlu a’ch mewngofnodi, mae Google yn ei gwneud hi’n hawdd iawn gosod fyny’ch hun/ddechrau arni trwy roi rhestr o dasgau i’w cwblhau. Mae’r rhain yn cynnwys pethau megis nodi’ch gwybodaeth gyswllt, oriau agor, yr ardal rydych chi’n ei chwmpasu, gwasanaethau a gynigir a llawer mwy. Cwblhewch hwy i gyd er mwyn  sicrhau eich bod chi’n cael y gorau ohono. Yna, ceir rhai meysydd pwysig y mae canolbwyntio arnynt:

Tudalen Gwybodaeth

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am eich busnes. Sicrhewch fod yr oriau agor yn gywir, a gallwch hefyd ychwanegu unrhyw oriau arbennig sy’n gymwys (e.e. gwyliau banc). Efallai y gwelwch fod Google wedi casglu rhywfaint o’r wybodaeth hon eisoes, naill ai o’ch gwefan neu’ch cyfryngau cymdeithasol: gwnewch yn siŵr eu bod yn gywir!

Postiadau

Dyma gyfle i ddarlledu unrhyw ddiweddariadau am eich busnes i’r byd – ond nid yw cweit yr un fath a’r cyfryngau cymdeithasol. Gallwch ychwanegu llu o bostiadau o wahanol fathau, gan gynnwys unrhyw gynigion sydd gennych chi, diweddariad cyffredinol, neu ddigwyddiad. Hefyd, yn ystod yr amseroedd rhyfedd hyn, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn ychwanegu diweddariad COVID-19: – gadewch i bobl wybod sut mae’n effeithio ar eich busnes, boed yn dal i gario ymlaen fel arfer,  oriau gwahanol/ lleihau oriau, neu hyd yn oed wedi atal dros dro. Trwy hyn gellir o leiaf hysbysu’ch cwsmeriaid.

Tudalen Cipolwg

Mae’r dudalen hon yn storfa o wybodaeth – mae’n dangos sut mae pobl wedi bod yn chwilio am eich busnes, a sut y daethon nhw o hyd i chi! Mae’r wybodaeth allweddol yma yn cynnwys pa dermau chwilio yr oeddynt yn ddefnyddio i ddod o hyd i chi – a wnaethant chwilio am enw eich busnes, neu a ddaethon nhw o hyd i chi trwy chwilio am wasanaeth. Yn ogystal, gellir gweld faint o ddefnyddwyr ddaeth o hyd ichi trwy Google Search neu Google Maps.

Mae hon yn wybodaeth ddefnyddiol iawn  er mwyn dysgu am ymddygiad eich cwsmeriaid, a ble i ganolbwyntio eich ymdrechion marchnata.

Tudalen Gwasanaethau

Mae’r dudalen hon yn caniatáu ichi egluro i Google beth yn union yr ydych yn ei gynnig, mewn cryn dipyn o fanylder. Byddwn yn argymell yn fawr i chwi ychwanegu’r holl wasanaethau rydych chi’n eu cynnig – yn enwedig os ydych chi’n cynnig gwasanaethau arbenigol. Rwy’n amau bod Google yn defnyddio llawer ar rhain er mwyn deall yr hyn y mae eich busnes yn ei gynnig, ac i baru pobl sy’n chwilio am y gwasanaethau hynny gyda’ch busnes.

Tudalen Adolygiadau

Dyma o bosib y dudalen bwysicaf  – lle cewch chi ddarllen am brofiad pobl o’ch busnes. Mwynhewch yr adolygiadau disglair (neu ewch i’r afael â’r meysydd hynny sydd angen eu gwella!). Ond, beth bynnag yw’r adolygiad, mae’n werth ymateb i gynifer ag y gallwch. Mae’r bobl hyn wedi cymryd yr amser i roi gwybod ichi am eu profiad, ac mae diolch neu gydnabyddiaeth yn mynd yn bell.

Tudalen Archebu

Gallwch hyd yn oed gysylltu eich tudalen Google Business â system archebu (dim ond SimplyBook.me yn y DU ar hyn o bryd), a chymryd archebion yn uniongyrchol o’r dudalen chwilio. Mae hyn yn hynod bwerus os ydych yn cymryd  archebion neu apwyntiadau, gan ei fod yn ei gwneud hi’n syml iawn i’r cwsmer ryngweithio’n uniongyrchol â’ch busnes.

Crynodeb

Felly,  dyna ni – rydych chi wedi’ch sefydlu ar Google My Business! Er y gall deimlo bod hwn yn waith ac amser ychwanegol eto yn marchnata’ch busnes,  cofiwch ei fod yn ffordd i chi ymgysylltu’n uniongyrchol â chwsmeriaid sy’n chwilio am eich busnes yn Google. Yn ogystal, cadwch mewn cof bydd unrhyw ymdrechion a wneir yn Google My Business hefyd yn cyfrannu at optimeiddio peiriannau chwilio eich gwefan!