Rydym YN CARU bod yn rhan o Wobrau Cyntaf Aber First bob blwyddyn. Rhain yw, i’r rhai ohonoch na wŷr, y gwobrau cymunedol a busnes a drefnir gan Menter Aberystwyth. Fel arfer maent yn cael eu cynnal tua mis Mehefin ond gohiriwyd y gwobrau eleni tra bod tîm Menter Aberystwyth yn aros i weld beth fyddai’n digwydd gyda Covid-19 ac unrhyw gyfyngiadau posib. Fel mae’n digwydd bod, daeth yn amlwg yn fuan iawn byddai digwyddiad cyhoeddus yn amhosibl ac felly mae’r digwyddiad wedi mynd yn rhithwir!

Rydym ni’n noddi Gwobr Hyrwyddo’r Gymraeg. Rydym bob amser yn awyddus iawn i’w chefnogi o ystyried mai un o’n prif nodau fel cwmni yw hyrwyddo’r Gymraeg, a chael mwy o’r Gymraeg ar-lein! Mae’r Seremoni Wobrwyo yn cael ei chynnal, ar-lein, ddydd Iau 19eg Tachwedd. Byddwn ni’n gwylio o’r soffa, pob lwc i bawb sydd ar y rhestr fer! Mae hi wedi bod yn flwyddyn galed i lawer ohonom, felly mae’n braf cael dathlu rhywbeth cadarnhaol!