Yn ôl yn 2018, cyflwynodd LinkedIn hashnodau ar eu platfform. Er yn ymwybodol eich bod yn gyfarwydd a sut mae hashnodau yn gweithio, mae ychydig yn wahanol ar LinkedIn, oherwydd natur y platfform cyfryngau cymdeithasol ei hun a’r angen i ddefnyddio hashnodau proffesiynol bob amser.
Felly, i atgoffa’n hunain – gallwch ddefnyddio hashnodau i chwilio ac ehangu eich rhwydwaith – maent yn ffordd wych o weld beth mae pobl eraill yn ei ddweud ar yr un hashnod / pwnc (er enghraifft, #marchnatadigidol) ac i ddechrau sgwrs. Mewn ffordd, mae’r defnydd iawn ohonynt ar LinkedIn fel defnyddio digwyddiad rhwydweithio gwych.
Awgrymiadau Hashnodau ar LinkedIn
- Peidiwch â mynd yr llwyr “Instagram” yma. Mae angen i chi sicrhau bod pob un o’ch postiai LinkedIn a chynnwys da, galwad i weithredu ac yna hashnodau. Cofiwch fod y platfform yn un proffesiynol, ac mae angen i’ch postiai adlewyrchu hyn. Yr hyn dwi’n ei olygu trwy ddweud “peidiwch â mynd yn llwyr Instagram yma” yw: peidiwch â gor-ddefnyddio hashnodau, peidiwch â hashnodi pob gair, a meddyliwch yn ofalus am y tagiau y dymunwch eu defnyddio.
- Os yw’ch hashnod yn frawddeg hir, priflythrennwch bob gair (i wella’r ddarllenadwyedd) a gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio atalnodi priodol os yw’r hashnod o fewn brawddeg. Mae’n bwysig hefyd gwirio sillafu – trueni fyddai creu post arbennig gyda hashnodau perffaith ond gyda sillafu gwallus fel bo neb yn ei ddarganfod.
- Yn dibynnu ar eich rhesymau dros fod ar LinkedIn, gallech ddefnyddio hashnod arbenigedd (Niche hashtags). Fe ddarganfyddwch fod gan bob pwnc, arbenigedd neu sector ei hashnodau eu hunain, felly defnyddiwch a dilynwch y rhain.
- Eto, yn dibynnu pam eich bod ar LinkedIn, gallech hefyd ddefnyddio hashnodau sy’n seiliedig ar leoliad. Rydym ni yn aml yn defnyddio #Aberystwyth, #Ceredigion a #Wales oherwydd dyma ble mae ein cynulleidfa darged wedi’i seilio. Ond, os nad ydych chi’n dymuno aros yn lleol, peidiwch â chyfyngu’ch hun.
- Dilynwch hashnodau sy’n berthnasol i’ch brand, mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl sydd o’r un meddwl a chi sy’n gweithio yn yr un diwydiant. Mae hefyd yn ffordd wych o ffendio syniadau newydd neu i wirio technoleg newydd.
- Mewn digwyddiad neu gynhadledd? Gwiriwch os oes hashnod digwyddiad (Event Hashtag) ac yna gallwch ddilyn neu tagio wrth i chi bostio hefyd. Mae hyn yn awgrym ardderchog ar gyfer Twitter hefyd!
- Cofiwch ddarllen dros eich hashnodau a gwnewch yn siŵr ei/eu f/bod wirioneddol yn meddwl neu’n ddweud yr hyn yr ydych chi’n fwriadau… neu bydd eich hashnod LinkedIn chwi yn fethiant!
- Rydym yn argymell eich bod yn meddu ar hashnod brand / busnes, neu o leiaf hashnod ymgyrch (Campaign Hashtag) Yn ddiweddar, dechreuais weithio gyda Rhaglen Meee yng Ngogledd Cymru, gan ddefnyddio’r hashnod #bemoreyouwithmeee ar gyfer pob post a roir ar y cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn yn ysgrifennu blog yn fuan yn argymell rhai hashnodau poblogaidd i’w defnyddio ar LinkedIn. Felly cadwch olwg allan amdano. Unrhyw gwestiynau am LinkedIn? Cysylltwch â ni!