Rydym wedi bod yn gweithio gyda Curiad ers mis Ebrill 2020 ar ailgynllunio ei gwefan, a sicrhau bod yr ‘ôl-brosesydd’ yn gwneud y gwaith fel y dylai- lawr lwythiadau digidol, cyfyngiadau ar faint bob gwerthiant ac yn y blaen. Mae Curiad yn werthwr cerddoriaeth o safon, yn enwedig cerddoriaeth Gymraeg, felly roedd hi’n bwysig sicrhau bod agwedd ddwyieithog y wefan i ymwelwyr a gweinyddwyr yn berffaith.

Mae Kerry yn aelod brwd o ddau gôr lleol yma yng Ngheredigion, felly roedd yn bleser mawr gallu gweithio ar y prosiect hwn, a hefyd rhoi mewnbwn i unrhyw gwestiynau neu ymholiadau. Gallwch ymweld â’r wefan drwy fynd yma: https://curiad.co.uk/cy/