Yn ddiweddar, lansiodd Gwe Cambrian Web, asiantaeth dylunio gwe yn Aberystwyth, wefan gyfreithiol newydd ar gyfer Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru. Mae’r wefan, sy’n darparu gwybodaeth hygyrch i blant a phobl ifanc am y gyfraith yng Nghymru, yn nodi’r tro cyntaf y bu adnodd ar-lein pwrpasol wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n eu galluogi i ddarganfod mwy am y gyfraith yng Nghymru a sut mae’n eu heffeithio.

Wedi’i gynllunio i fod yn hygyrch i blant a phobl ifanc yng Nghymru, mae’n canolbwyntio ar y 10 prif faes ym mywyd bob dydd a nodwyd gan Ganolfan Gyfreithiol Plant Cymru fel y rhai mwyaf perthnasol i bobl ifanc. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y gyfraith a sut mae’n effeithio ar blant – gartref, yn yr ysgol, yn eu perthnasoedd ac os ydynt yn mynd i drafferth gyda’r heddlu. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys pethau fel bod ar-lein, ar y stryd ac iechyd a lles.

Esboniodd Kerry Ferguson o Gwe Cambrian Web:

“Roedd dylunio gwefan wedi’i anelu at blant a phobl ifanc yn her ddiddorol iawn i ni, ac yn anrhydedd mawr cael ein dewis gan  Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru i gynllunio a gweithredu adnodd mor bwysig i addysgu plant am eu hawliau.

Mae pob gwefan rydym yn ei gynllunio yn gosod anghenion ein cleient – ac anghenion eu cwsmeriaid – yn gyntaf. Yn yr achos hwn, roedd gan Ganolfan Gyfreithiol Plant Cymru angen gwefan gwbl ddwyieithog a oedd yn ddeniadol ac yn hygyrch i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Buom yn gweithio’n agos gyda’r tîm ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu’r wefan ac rydym wrth ein bodd gyda’r canlyniadau – fel y maent! “

Meddai Hannah Bussicott, rheolwr Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru:

Mae  Gwe Cambrian Web wedi bod yn wych i weithio gyda hwy. Fe roddasant amser i ddeall ein prosiect a gweithio’n galed gyda’n tîm i wireddu ein gweledigaeth. Roedd eu agwedd ‘dwyieithog fel safon’ at ddylunio gwefan yn union yr hyn yr oedd ei angen arnom, hefyd. Rydym wrth ein bodd gyda’r canlyniad ac yn teimlo bod y wefan newydd yn llwyfan gwych i Ganolfan Gyfreithiol Plant Cymru adeiladu arni wrth i ni ddatblygu! “

 Mae llawer o blant yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y gyfraith mewn ystod eang o sefyllfaoedd – pan fydd eu rhieni yn gwahanu, os ydynt yn cael eu cymryd i ofal, os ydynt yn dioddef o wahaniaethu neu drosedd neu os ydynt hwythau’n mynd i drafferthion. Mae llawer o’r plant a’r bobl ifanc hynny yn aneglur ynghylch eu hawliau – neu os oes ganddynt unrhyw hawliau o gwbl. Wedi’i leoli yn Ysgol Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, nod Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru yw darparu’r wybodaeth bwysig hon i blant a phobl ifanc ledled Cymru, beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Mae’r wefan a gynlluniwyd gan Gwe Cambrian Web yn gam mawr ymlaen wrth helpu plant a phobl ifanc yng Nghymru i gael mynediad i gyfiawnder a gwireddu eu hawliau.