Cychwynnodd 2022 gyda lansiad gwefan newydd, un sydd wedi bod yn hynod ddiddorol i weithio arni. Mae Lleisiau Bach yn dîm sy’n gweithio gyda’i gilydd i rymuso plant fel ymchwilwyr ac eiriolwyr dros newid yng Nghymru. Maent yn defnyddio methodoleg a fabwysiadwyd gan yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant i lywio ei hymchwil a’i hymgysylltiad â phlant.

Mae’r wefan hon yn adnodd gwerthfawr i’r rhai sydd â diddordeb yn y gwaith y mae Lleisiau Bach yn ei wneud, a cheir adran Brosiectau helaeth ble gallwch ddarllen am y gwaith fesul ysgol.

Darganfyddwch fwy ar eu gwefan trwy glicio yma.