Roedd Milfeddygon Ystwyth yn chwilio am wefan newydd i arddangos eu hystod eang o wasanaethau, ac am gael gwefan sy’n fodern, yn lliwgar ac yn llawn gwybodaeth.

Roedd yn bleser gweithio gyda Kate a’r tîm (tîm mawr iawn!) ar y wefan newydd, a chreu gwefan sydd, nid yn unig yn edrych yn llawer gwell na’r hen un, ond sydd hefyd yn haws o lawer i ymwelwyr ei llywio er mwyn darganfod pa wasanaethau a chyfleusterau sydd gan Filfeddygon Ystwyth i’w cynnig.

Gallwch ymweld â’r wefan newydd drwy glicio yma.