Roeddem yn falch iawn o weithio gydag Aber Heating Engineers Ltd ar eu gwefan newydd a lansiwyd yn ddiweddar – mae bob amser yn bleser llwyr gweithio gyda chwmnïau lleol Aberystwyth.
Yn anffodus, roedd Aber Heating Engineers Ltd. wedi colli mynediad i’w hen wefan, felly manteisiwyd ar y cyfle i fynd am ddyluniad newydd ar blatfform newydd – WordPress, sy’n golygu y byddent wedyn yn cael mynediad i’r wefan ar gyfer eu diweddariadau eu hunain hefyd.
Roedd angen i’r wefan hyrwyddo eu gwasanaethau, ochr yn ochr â’r tystebau a’r cyfleoedd gwaith sy’n codi.
Gallwch ymweld â’u gwefan newydd drwy glicio yma.