Mae’n wych bod yn greadigol ar ddechrau’r flwyddyn, yn enwedig gyda lansi gwefan arall sy’n dathlu’r celfyddydau! Agor Drysau – Opening Doors yw Gŵyl Ryngwladol Celfyddydau Perfformio Cymru ar gyfer Cynulleidfaoedd Ifanc, a drefnir bob dwy flynedd gan Arad Goch. Mae’r Ŵyl yn rhoi cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru brofi rhai o’r perfformiadau rhyngwladol gorau, yn ogystal â rhoi cyfle i berfformwyr o Gymru arddangos y cyfoeth o dalentau artistig sydd gennym yma yng Nghymru i gynulleidfa ryngwladol.

Felly, os ydych chi’n meddwl  ymweld â Aberystwyth yn fuan, beth am alw mewn i’r ŵyl? Bydd yn rhedeg o Fawrth 16eg 2019 hyd at Fawrth 23ain 2019. Bydd Aberystwyth yn fwrlwm o dalentau artistig. Edrych ymlaen!

Ewch i’r wefan yma!