Ein lansiad gwefan olaf ar gyfer 2021, cyn y flwyddyn newydd, yw un ar gyfer caffi-bar lleol – Gwesty Cymru. Wedi’i brynu’n ddiweddar gan Julian Shelley, mae Gwesty Cymru wedi mynd i gyfeiriad newydd dros y misoedd diwethaf – gan symud o fod yn fwyty gydag ystafelloedd, i gaffi-bar sy’n cynnig amrywiaeth o blatiau, bwydydd, cacennau a diod.
Mae wedi bod yn bleser gweithio ar y wefan newydd WordPress ar gyfer Julian a’i dîm. Roedd angen i’r wefan fod yn fodern, yn hawdd ei llywio ac yn ddeniadol. Ar ôl sgwrsio’n faith â Julian am y gynulleidfa darged ar gyfer y busnes, a’r nodau ar gyfer y wefan, roedd defnydd trwm o ddelweddau yn allweddol. A dyna i chwi ddelweddau – does dim curo ar fachlud haul Aberystwyth.
Mae gan Julian gyfieithydd sy’n gweithio ar y cynnwys Cymraeg, a bydd yn cael ei uwchlwytho ym mis Ionawr 2022.