Rydym am gymeryd golwg ar y newyddion ddiweddaraf o fyd technoleg f=dros yr wythnos ddiwethaf. Wrth gwrs, mae’r byd digidol a technolegol yn sydyn iawn, a rydym wedi curadu y straeon yma i rannu gyda chi yr wythnos yma.

  1. Technoleg yn eich galluogi i weld carreg o’r lleuad, a gasglwyd gan Neil Armstrong
  2. Uber yn arbrofi gyda taliadau misol i gyfuno eu gwasanaethau
  3. Diweddariadau i TikTok
  4. Mwy o ddiweddariadau a newidiadau i Trydar

Berchen ar Garreg o’r Lleuad

Os nad oeddech yn gwybod yn barod, mae’r byd wedi bod yn dathlu’r 50fed penblwydd o laniad Apollo 11 ar y lleuad gan NASA – a rydym wedi bod yn ei ddathlu mewn gwahanol ffyrdd. Un ffordd y gellir dathlu yw drwy cael model fanwl (“safon ymchwil”) o’r sampl gyntaf erioed o bridd a charreg o’r lleuad a gasglwyd gan Neil Armstrong, diolch i adran ARES yn NASA.

Gallech wneud hyn *os* fod ffôn clyfar gennych ag yn mynd i’r dolen yma. Gallech wedyn weld y model o bob ongl posib. Da ta be!

 

Tanysgrifiad newydd Uber

Mae Uber yn arbrofi gyda chael tanysgrifiad misol a fydd yn cyfuno eu gwasanaeth tacsi, “Eats”, beiciau a sgwteri (yn America). Mae Uber yn chwilio i osod eu hunan fel yr unig opsiwn ar gyfer “pryd i glyd a phopeth yn y canol”. Wneith o weithio yn y DG?

Diweddariadau i TikTok

Rydym dal i bendronni am TikTok – ar un adeg roedd ymhobman, ag yna aeth allan o ffasiwn. Y si oedd, doedd o ddim am ddal ei dir yn erbyn y prif cyfryngau cymdeithasol. Wnaethom hyd yn oed fynychu cynhadledd am wythnos gyfan, a dim ond un trafodaeth gyda’r nos oedd yn trafod TikTok. Roedd y rhan fwyaf o’r sesiynnau am hysbysebion, bolgiau ag Instagram.

Mae felly ychydig o sypreis clywed mai TikTok yw’r pedwerydd ap mwyaf poblogaidd yn y byd yn y chwarter ddiwethaf. Mae nawr yn arbrofi gyda galluon newydd sydd yn debyg iawn i’r rahi sydd ar Instagram. Werth cadw llygad ar hwn.

Mwy o ddiweddariadau a newidiadau i Trydar

Wel. Os ydych ar Trydar mae wedi bod yn gyfnod cythryblus yn ddiweddar – a mae’r newidiadau dal i ddod. Yr arbrawf ddiweddar yw i wneud edefynnau sgyrsiau yn haws i ddilyn (hawdd gweld sut gall edefynnau fynd yn anodd iawn i’w dilyn!). Bydd yr arbrawf yn lawnsio labeli ar ymatebion nodedig – er enghraifft os yw’r postiwr gwreiddiol yn ymateb, bydd eu hymateb hwy yn cael eicon wrth ei ymyl (meicroffôn) i nodi hynny. Mae hyn yn debyg iawn i Facebook, os ydych mewn grwp, neu yn dilyn tudalen, byddech wedi gweld eiconnau o’r fath dipyn yn ôl.

Diolch am ddarllen! Tra ein bod yn rhoi newyddion technoleg yma, efallai byddech eisiau gweld ein newyddion cyfryngau cymdeithasol ar Digida.