Ddoe cawsom y newyddion fod Kerry wedi’i derbyn fel Model Rôl ar gyfer Syniadau Mawr Cymru – Big Ideas Wales. Mae’r hyfforddiant yn digwydd yn Llandudno fis nesaf, ac yna bydd Kerry yn mynychu ysgolion a cholegau sy’n rhedeg gweithdai i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.
Menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Syniadau Mawr Cymru i addysgu plant mewn ysgolion a choleg am fentergarwch, rhedeg eich busnes eich hun a’r opsiynau tu allan i’r byd academaidd. Dysgwch fwy trwy ymweld â’u gwefan: