Yr wythnos diwethaf,  cafwyd diweddariad arall ar Facebook, yn ymwneud yn bennaf â’r adrannau grwpiau. Cythruddodd hyn lawer – efallai am resymau dilys.

Beth oedd y diweddariad yn ei wneud? Ar yr olwg gyntaf, ymdebygai  bod rhai cannoedd o aelodau wedi’u dileu o rai grwpiau. Ond o edrych yn ddyfnach roedd yn stori wahanol – fel y gwyddoch, gallwch ychwanegu pobl i grwpiau heb eu caniatâd. Mae hyn yn rhywbeth sy ‘chydig o boen ar Facebook, lle mae hi’n hawdd ychwanegu aelodau newydd i grwpiau na fyddent erioed â diddordeb ynddynt. Symudodd y diweddariad hwn bobl a oedd wedi cael eu hychwanegu i grwpiau ond ERIOED  wedi ymweld â hwy, i adran “wahoddedig”. Mae hyn yn caniatáu i weinyddwyr y grŵp anfon atgoffyn i’r aelodau gwahoddedig, yn gofyn iddynt naill ai “ymuno” yn iawn, neu gellir eu tynnu ffwrdd. Yn ein barn ni mae hyn yn gam ymlaen gan Facebook.