Bydd cleientiaid yn aml yn gofyn i ni beth allent wneud i “gael canlyniadau gwell ar Google?” … ac un o’n hargymhellion yw blogio. Mae’n ffordd eithaf hawdd  o ddiweddaru rhywfaint o gynnwys  eich gwefan, rhywbeth mae peiriannau chwilio fel Google am eu weld. Fel arfer y cwestiwn nesa yw – “ond pa mor hir y mae angen iddo fod?” … pa mor hir yw hir?

Ein hateb bob amser yw nad yw blogio fel ysgrifennu traethawd Lefel A Saesneg neu Gymraeg. Felly, gwaredwch y syniad hwnnw yn gyntaf oll a cymrwch gam yn ôl. Os darllenwch  trwy ein blogiau, fe welwch lawer am fod yn agored, yn onest, yn dryloyw, yn awdurdodol a mwy. Blogio yw eich cyfle delfrydol i fod yr holl bethau hynny – meddyliwch amdano fel ffordd o drosglwyddo eich gwerthoedd busnes a’ch neges i’ch cleientiaid, a’ch darpar gleientiaid.

Rheol dda yw ‘sgwennu 300-500 o eiriau ar gyfer post blog, ond ar ddiwedd y dydd mae’n rhaid cael cynnwys safonol sy’n ddefnyddiol i’ch cleientiaid / ymwelwyr. Mae’ch ymwelwyr eisiau teimlo eu bod wedi dysgu rhywbeth o dreulio amser yn darllen eich post, mae’n gyfle i’w haddysgu a hefyd i ddangos eich bod chi o gwmpas eich pethau. Os yw’ch post dros 1000 o eiriau, tydio ddim yn broblem, cyn belled â bod eich ymwelwyr wedi canfod yr hyn oeddent am ganfod ac nad ydych yn malu awyr. Poenwch lai am sawl gair a mwy am ansawdd y cynnwys .

Sut allwch chi wirio pa mor dda y mae eich post yn plesio’ch cwsmeriaid? Wel, offeryn gwych ar ddadansoddiadau Google (Google Analytics) yw’r gyfradd adlam (bounce rate). Gallwch wirio’r gyfradd adlam ar gyfer pob tudalen / post i weld os yw’ch cynnwys yn taro deuddeg ai peidio. Os yw’r gyfradd adlam yn uchel (hynny yw dros 45%) yna gwyddoch fod ymwelwyr yn glanio ar y dudalen ac yn gadael bron yn syth, gan nad yw ffocws y post yn glir, neu  d’yw’r ateb ddim ar gael yn syth.