Mae’n siŵr i chi glywed neu weld emoji  ar eich taith drwy’r rhyngrwyd, ond sut allwch chi ddefnyddio’r rhain wrth farchnata ar-lein?

Rhywbeth hwyliog oedd Emojis yn wreiddiol, ond dros y blynyddoedd diwethaf maent wedi datblygu i fod yn iaith fyd-eang. Mae ystadegau o 2017 yn awgrymu bod 92% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd ledled y byd yn defnyddio emojis yn rheolaidd. Dywedodd Tracey Pickett mewn digwyddiad Tedx yn Greenville  (gweler y fideo 10 munud isod) mai dyma’r cynnydd pwysicaf mewn cyfathrebu dynol.

Byddwn yn defnyddio emojis yn ein postau cyfryngau cymdeithasol, mewn negeseuon uniongyrchol, ar WhatsApp, fel sticeri ar  SnapChat. Mae nhw wedi’u gwreiddio yn ein bywydau ni  cymaint fel bod Apple wedi creu’r bysellfwrdd emoji yn 2011. Ond, ydy busnesau yn eu defnyddio i’w llawn botensial? A beth yw’r potensial hwnnw?

Meddyliwch, rydym yn eu defnyddio o ddydd i ddydd mewn cysylltiadau personol oherwydd y gwir ydy, gallwn arddangos ein hemosiynau yn llawer gwell trwy emojis  na thrwy eiriau. Weithiau mae emoji yn dweud mwy na geiriau, neu gallwch osod un ar ddiwedd brawddeg i ddangos teimlad.  Yn aml, dim ond emoji sydd ei angen gan ei fod yn cyfleu teimladau neu’r hyn sydd  eisiau ei ddweud mewn un ddelwedd fach. Yn greiddiol, gall emojis bontio’r bwlch rhwng testun a thôn. Mae emoji yn ychwanegu emosiwn a phersonoliaeth i frawddeg.

Felly,  i ddychwelyd at y cwestiwn- a yw busnesau yn eu defnyddio i’w llawn botensial? Na, dim yn ein profiad ni. Rydym wedi ysgrifennu nifer o flogiau ar sut i farchnata ar-lein ar gyfer busnes, ac maent i gyd yn canolbwyntio ar y ffaith bod cyfryngau cymdeithasol yn ein galluogi i greu perthynas gyda’n cwsmeriaid a’n darpar gwsmeriaid. Sut ydym ni’n gwneud hyn? Trwy fod yn fwy dynol/personol (a llai corfforaethol), ac ychwanegu personoliaeth i’n strategaeth farchnata.

Os mai hyn yw ein gwir  nod,  allwn ni ddim felly anwybyddu defnyddio emojis wrth farchnata am fusnes ar-lein.