Colofn ddigidol EGO Medi; os ydych chi yn Aberystwyth neu Aberaeron efallai eich bod wedi darllen hwn eisoes!

Mae llawer o bobl yn defnyddio “Straeon” ar eu platfformau cyfryngau cymdeithasol (mae’n nodwedd sy’n gyffredin i Instagram, Facebook, YouTube a mwy), ac mae’n dueddiad sy’n parhau i dyfu. Oeddech chi’n gwybod, fod hanner biliwn o bobl yn defnyddio’r opsiwn Straeon bob dydd ar Instagram yn unig? Iawn, tydi’r holl straeon ddim yn seiliedig ar fusnes,  mae’r mwyafrif yn rhai bersonol – ond mae busnesau sy’n defnyddio Straeon ar gynnydd. Os nad ydych eisoes yn gwneud hyn fel rhan o’ch strategaeth farchnata ddigidol, yna dylech feddwl amdano fel opsiwn.

Mewn Cynhadledd Cyfryngau Cymdeithasol ym Mryste yn ôl ym mis Mehefin, bu llawer o siarad (a dwi’n golygu, llawer) am Straeon Instagram, a sut mae Straeon yn goddiweddyd ffrwd / llinellau amser traddodiadol. Dy’w hyn ddim ond ar Instagram yn unig, mae hefyd yn duedd gynyddol ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol yn eu cyfanrwydd. Mae ystadegau diweddar gan TechCrunch yn honni  bod straeon yn tyfu 15x yn gyflymach na phorthwyr – felly, mae’n bryd bwrw iddi oherwydd mae yma i aros.

Ond pam fod Straeon mor boblogaidd? Mae na amryw reswm mae’n siwr, ond yn fy marn i, mae  oherwydd bod Straeon “yn y foment”. Maent wedi’u cynllunio i ddiflannu ar ôl 24 awr, felly o safbwynt busnes mae’n golygu y gallwch chi rannu rhywbeth mwy personol, llai curadol i’ch stori gan wybod y bydd wedi diflannu ar ôl diwrnod (felly nid oes angen iddo ffitio i mewn i’ch thema Instagram neu weddu i’ch steil post Facebook). Hefyd, oherwydd bod y cynnwys yn llai curadol, mae’n fwy byw a real. Dwi’n gwybod i’n traethu llawer dylai busnesau arddangos eu personoliaeth a’u hethos, ond  ymddengys mai dyma’r duedd gynyddol yn yr hyn y mae defnyddwyr platfformau cymdeithasol ei eisiau. Mae nhw am weld eich Stori cyn eich Post lafurwyd arno yn ofalus- ac am weld yr hyn sy’n digwydd o ddydd i ddydd.

Ac am be fydd eich Stori? Sut mae’n gweithio? Oes rhaid i mi wneud fideo byw? Myrdd o  gwestiynau – ond, peidiwch â phoeni! Yn fy marn i, mae Straeon yr un mor hawdd â Postio i fynd i’r afael â hwy unwaith ewch chi i’r afael arni. Felly dyma ychydig o gyngor i chi: –

  • Ceisiwch wneud yn glir i chi’ch hun y gwahaniaeth rhwng eich “Stori” a’ch Post. Rydym ni’n canolbwyntio ein Post ar fusnes, tra bod ein Stori yn dangos llawer mwy o’n gwaith beunyddiol (yr egwyl goffi honno gyda chleient er enghraifft, neu ddefnyddio ein tocynnau EGO).
  • Cadwch eich Straeon ar eich brand bob amser, ac, i hwyluso pethau ichi, crëwch dempledi Stori.
  • Peidiwch â theimlo bod yn rheidrwydd arnoch i ddefnyddio yr holl nodweddion y mae Straeon yn eu cynnig (arolygon barn, sgwrs fyw, cyfrannu ac ati). Cofiwch gadw’ch neges yn glir ac yn syml. Ar y llaw arall, peidiwch â disgwyl pethau gwych os ydych chi’n yn undonog: – arbrofwch a gwnewch hynny mewn ffordd glyfar.
  • Os oes gennych chi rywbeth gwych neu eiriau doeth i’w rhannu- Ewch yn fyw! Mae’n ffordd wych o ychwanegu personoliaeth a dilysrwydd i’ch brand, tra’n caniatáu i’ch cwsmeriaid sylfaenol ddod i’ch adnabod (teyrngarwch brand).
  • Os ydych chi am fynd yn fyw, ystyriwch ychwanegu is-deitlau ar gyfer y rhai sydd heb wedi  droi’r sain fyny.
  • Cofiwch hefyd, os yw Straeon yn fwy poblogaidd na ffrwd, dylech bostio am eich gwasanaethau a’ch cynyrch ynddynt – ond peidiwch â mynd dros ben llestri. Trwy ennyn diddordeb yn eich brand trwy Straeon, byddwch yn cynyddu ymwybyddiaeth brand, a, thrwy hynny, gobeithio, yn annog darpar gwsmeriaid i edrych ar yr hyn rydych chi’n ei wneud hefyd.
  • Tagiwch a hashnodiwch yn gyson, mae’n ffordd wych o ymgyrraedd ymhellach o fewn Straeon.
  • Os ydych chi’n eu defnyddio ar gyfer busnes, newidiwch eich proffil i broffil busnes, a byddwch chi’n cael ychydig o nodweddion defnyddiol newydd, fel “Uchafbwyntiau Stori”. Yma gallwch rannu’ch hoff Straeon yn uchafbwyntiau, er enghraifft uchafbwynt ar gyfer pob gwasanaeth neu fath o gynnyrch sydd gennych.
  • Gwnewch eich Straeon yn ddiddorol trwy ychwanegu sticeri, GIFs ac emojis – OND – peidiwch â mynd dros ben llestri, gan y gallent dynnu oddi wrth y neges rydych chi’n ceisio ei chyfleu.
  • Archwiliwch yr holl opsiynau sydd ar gael mewn stori – er enghraifft ceir bellach swyddogaeth Sgwrsio, botwm Cyfrannu a mwy: – I gyd yn ffyrdd o helpu busnesau i ddefnyddio straeon yn fwy effeithiol.

Dwi’n ymwybodol bydd llawer o fy nghleientiaid yn pryderu lle ga’ nhw’r  amser i wneud hyn i gyd- ond, trwy roi ychydig o amser i Straeon, gallwch chi dorri lawr ar yr hyn rydych chi’n ei bostio. Os ddwedwch chi  ychydig o Stori bob dydd, byddwn  yn argymell tua 2-3 post yr wythnos ar Facebook neu Instagram.

A dy’w hynny ond megis dechrau! Cysylltwch â ni i gael mwy o awgrymiadau a chyngor – rydyn ni bob amser yn hapus i helpu