Pan fyddwn yn cwrdd â darpar gleient newydd, byddwn bob amser yn sicrhau ein bod yn cyfarfod wyneb yn wyneb (boed hynny yn Aberystwyth neu rydym yn teithio i’w gweld). Rydym yn sgwrsio am y busnes, yr hyn maen nhw’n chwilio amdano mewn gwefan newydd, ac yn y pen draw, byddaf yn troi’r sgwrs tuag at  y cyfryngau cymdeithasol … Mae’n bwysig o’n safbwynt ni gweld sut y bydd busnes yn marchnata eu hunain, ac yn amlach na pheidio  mae gor-ddibyniaeth ar y wefan I wneud hyn ar eu cyfer. Rwyf wedi ysgrifennu am hyn o’r blaen, blog ddefnyddiol iawn y gallwch chi ei ddarllen yma: Peidiwch â dibynnu ar eich gwefan i weithio ar ei phen ei hun!

Pan mae’r sgwrs yn troi at  farchnata digidol neu gyfryngau cymdeithasol, mae’n deg dweud i’r busnesau rydym yn gweithio gyda hwy’n ymdebygu ychydig i ‘Marmite’. Mae rhai yn ymwneud yn helaeth â chyfryngau cymdeithasol, tra bod eraill yn ceisio eu gorau glas i’w osgoi, ni waeth beth y gost. Mae  tri rheswm am hyn yn aml   – nid ydynt yn gwybod sut i’w ddefnyddio, nid oes ganddynt amser i’w ddefnyddio, nid ydynt yn gwybod beth i’w bostio.

Mae’i gyd yn ymwneud a ffordd o feddwl,  a mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn ei bwysleisio gyda unrhyw un sy’n  trafod cyfryngau cymdeithasol a mi. Pwrpas cyfryngau cymdeithasol yw sefydlu personoliaeth i’ch busnes ar-lein, a bod yn gymdeithasol â’ch darpar gwsmeriaid a dilynwyr.

Pe bai gennych siop ar y Stryd Fawr a pobl yn galw mewn i edrych o gwmpas, byddech chi’n debygol o ddweud helo cwrtais, ddechrau sgwrs neu gynnig help. Felly pam ddylai fod yn wahanol ar-lein? Unwaith y byddwch chi’n dechrau meddwl fel hyn, mae cyfryngau cymdeithasol yn dod yn llawer mwy hawdd i’w ddefnyddio o safbwynt busnes.

Mae hefyd yn deg dweud, y gallai rhoi cyngor ar gyfryngau cymdeithasol,  ymddangos fel gwastraff o 5 munud o deipio heb ddim tâl, ond dyma’n union fyddech chi’n wneud petaech yn sgwrsio wyneb yn wyneb, a gallai’r darpar gwsmeriaid hynny ddod yn ôl a gofyn i chi am fwy o help neu ddod atoch yn uniongyrchol am eich gwasanaethau. Felly gwnewch yr un peth ar-lein.

Bydd unrhyw fusnes newydd sy’n dechrau dyddiau yma  yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, dylai unrhyw fusnes a ddechreuodd yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf fod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, felly os ydy pawb arall yn eu defnyddio, mae angen i chithau hefyd. Mae’r cyfryngau cymdeithasol bellach yn rhan annatod o redeg busnes, daw law yn llaw â’ch gweithgareddau busnes dyddiol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth a chyngor am gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys rhai digwyddiadau  sydd yn digwydd yn fuan, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar ein tudalen Facebook! a sicrhewch eich bod yn cysylltu â ni os oes angen cymorth arnoch.