Er nad ydyw i weld fawr o amser ers i ni gychwyn ein busnes, mae’n dipyn o sioc sylweddoli ei fod bellach yn 8 mlynedd ers y dechreuad hynny! Mae’n rhyfeddol pa mor bell rydyn ni wedi teithio, o syniad a grybwyllwyd mewn ystafell wely yn gweithio oddi ar liniaduron i fod yn cyflogi 2 aelod o staff erbyn hyn mewn swyddfa wych yng nghanol Aberystwyth. Nid yn unig hynny ond yn gweithio gyda chymaint o amrywiaeth o fusnesau, unigolion a sefydliadau ledled Cymru, ynghyd a helpu i hyrwyddo’r Gymraeg ar-lein gymaint ag y gallwn.

Y mis yma felly, rwyf am rannu 8 o’n cynghorion gorau ar gyfer rhedeg eich busnes eich hun, heb ganolbwyntio ar un maes yn benodol, dim ond pethau yr ydym wedi’u dysgu ar ein taith fel perchnogion busnes. Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau!

  1. Byddwch yn chi’ch hun – dyma’r cyngor gorau y gallaf ei rannu. Mae’n sail i bopeth a wnawn, nid yn unig yn unigol ond fel cwmni hefyd. Mae’n rhaid i chi adael i’ch personoliaeth ddisgleirio ym mhopeth – y ffordd rydych chi’n ysgrifennu e-byst, sut rydych chi’n ateb y ffôn, y cynnwys ar eich gwefan, eich cyfryngau cymdeithasol. Mae i gyd yn ymwneud â bod y person ‘rydych chi, a’i arddangos. Unwaith y gallwch ddechrau gwneud hynny, dylech weld rhai newidiadau cadarnhaol!
  2. Tyfu’n organig – o brofiad ac amgylchiadau rydym wedi tyfu’n organig dros 8 mlynedd i ble rydym ar hyn o bryd. Mae’n demtasiwn rhuthro pethau ar y dechrau – mae’n hawdd gwneud hyn pan fyddwch chi’n dechrau busnes a mae gennych lawer o amser. Cymerwch ymagwedd fwy pwyllog ac organig a byddwch mewn sefyllfa gryfach yn y pendraw –trwy wneud hyn rydych chi’n rhoi amser i chi’ch hun dyfu yn hytrach nag ymestyn yn rhy gyflym.
  3. Anghofiwch y gystadleuaeth – pan fyddwch yn dechrau busnes newydd, wrth gwrs rhaid cadw llygad ar y gystadleuaeth, bron fel meincnod ar gyfer yr hyn y gallech anelu ato. Ar y dechrau rydyn yn sicr wedi gwneud hyn, ac wedi meddwl ie – rydyn ni eisiau bod fel nhw! Ond yn sydyn, rydych chi’n sylweddoli y gallech chi fod yn treulio gormod o amser yn edrych ar y gystadleuaeth ac yn cymharu’ch hun â nhw. Nid oes gennych syniad beth sy’n mynd ymlaen tu mewn i’w busnes, felly sut y gallwch wir wneud cymhariaeth deg? Hefyd gall eich nodau chi fod yn hollol wahanol!
  4. Allanoli – cymerodd hyn amser i ni ddysgu, ond un o’r camau pwysicaf i ni oedd sylweddoli, allwch chi ddim gwneud popeth. Er enghraifft, er mwyn arbed 1 awr yr wythnos yn y swyddfa, gwnaethom logi glanhawr. Ar y pryd roedd hyn yn ymddangos yn beth gwirion i wneud, ond roedd yn boen meddwl mawr ffeindio amser i lanhau y swyddfeydd a roeddem yn ei wneud yn hwyr ar y Sul neu’n fuan iawn fore Llun. Mae contractio allan yn ffordd o fuddsoddi yn eich busnes, derbyniwch na allwch wneud y cyfan ac nad ydych yn arbenigwr ar bopeth – a bydd yn rhyddhau amser ar gyfer y pethau hynny rydych chi yn eu gwneud yn dda.
  5. Adnabod eich cynulleidfa darged – mae hwn yn holl bwysig. Mae llawer o bobl yn tybio ei fod yn ymwneud â marchnata yn unig ond mae’n golygu llawer mwy na hynny. Bydd popeth a wnewch o fewn eich busnes yn cysylltu’n ôl â’ch cynulleidfa. Beth bynnag yw taith eich cwsmer o’r ymholiad cychwynnol hwnnw i orffen prosiect neu werthu eitem, bydd yn dibynnu ar eich cynulleidfa darged. Alla i ddim pwysleisio’r pwysigrwydd o sylweddoli hyn, a mynd yn ôl ato bob amser i weld a yw eich cynulleidfa wedi newid neu aros yr un fath.
  6. Allwch chi ddim gwneud y cyfan – mae hwn yn gysylltiedig â’r cyfryngau cymdeithasol, a hefyd eich cystadleuaeth. Ers tro bu rhyw ymdeimlad bod angen i chi fod ar bob un platfform sydd ar gael, neu, os yw eich cystadleuaeth ar 4 platfform yna mae’n amlwg bod rhaid i chithau fod hefyd… wel, gadewch i mi ’ch hysbysu nad yw hynny’n wir. Unwaith eto, dewch i ni dybio nad ydych chi’n gwybod sut mae’ch cystadleuaeth yn gweithio go iawn – efallai nad oes ganddyn nhw gymaint o waith cleient felly nid ydynt mor brysur, efallai bod ganddynt aelod ychwanegol o staff, efallai eu bod yn gweithio 12 awr y dydd. Dydych chi ddim yn gwybod! A phan ddaw’n fater o fod ar lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol, fy mhrif gyngor fyddai peidio â gwneud gormod ar unwaith. Mae’n well gwneud un neu ddau blatfform yn dda, na 3 neu 4 yn wael. Yr hyn sy’n holl bwysig i chi ei wybod yw, ble yn union mae eich cynulleidfa darged? Does dim llawer o bwynt bwrw eich egni gyd ar Twitter os ydyn nhw’n treulio eu holl amser ar Pinterest ac Instagram.
  7. Llogwch gyfrifydd – mae dau fudd i hyn. Yn gyntaf, oni bai eich bod yn gyfrifydd, mae’n debygol y byddwch yn mynd ar goll yn nryswch rheolau Cyllid a Thollau EI Mawrhydi a phopeth arall a ddaw yn eu sgil. Bydd llogi cyfrifydd yn eich helpu i sicrhau eich bod yn cadw at y rheolau, gan dalu’r hyn y mae angen i chi ei wneud mewn treth a pheidio â chael eich cosbi. Yn ail, byddwch yn buddsoddi yn eich busnes. Llogwch gyfrifydd a all helpu eich busnes i dyfu, sy’n deall eich diwydiant ac a all eich cynghori ar beth i’w wneud â’ch cyllid. Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gan hefyd gynnig haen ychwanegol o gefnogaeth i chi.
  8. Cysylltu â chyd-berchnogion busnes – gall bod yn berchen ar eich busnes eich hun fod yn unig. Gyda phwy ydych chi’n siarad ar ddiwedd diwrnod gwael? Gyda phwy allwch ddathlu eich llwyddiannau? Mae ffrindiau a theulu yn wych wrth gwrs, ond does dim yn curo’r gefnogaeth gan gyd-berchnogion busnes sy’n gwybod beth ydy be! Byddwn yn argymell grwpiau rhwydweithio all-lein ac ar-lein i ddod o hyd i’ch cyfeillion perchennog busnes.

A dyna ni – fy 8 prif gyngor ar gyfer rhedeg eich busnes eich hun. Mae llawer mwy, ac os ydych chi’n rhedeg eich busnes eich hun eisoes efallai y bydd gennych chi fwy i’w ychwanegu hefyd!