Pwy sy’n union yw Gwe Cambrian Web? Rydyn ni wedi bod o gwmpas ers dros 5 mlynedd bellach ac  wedi ein lleoli mewn swyddfa (Canolfan Busnes Aberystwyth yr ydym hefyd yn rhedeg) ar Stryd y Bont yn Aberystwyth.

Dechreuodd Gwe Cambrian Web ym mis Mehefin 2013.Fe’i sefydlwyd gan Emlyn Jones a Kerry Ferguson (gweler y llun gyferbyn … dyma ni yn noddi “Ras yr Iaith 2018” ar ei ffordd trwy Aberystwyth).

Ffurfiwyd y syniad busnes yn gynnar yn 2013, yn dilyn peth ymchwil i’r farchnad, oedd yn dangos fod diffyg Cymraeg ar-lein, ond wedi ei yrru gan y ffaith bod cael gwefan ddwyieithog wedi’i gynllunio a’i ddatblygu bron ddwywaith mor gostus a safle “uniaith” safonol. Credasom, “gallwn ni wneud hyn yn rhatach” tra’n helpu i gael y Gymraeg a busnesau bach ar-lein. Un o’n prif USPs yw’r ffaith ein bod ni’n siaradwyr Cymraeg rhugl, ac rydym yn falch iawn o allu helpu i hyrwyddo’r iaith o ddydd i ddydd.

O  eginyn bach yn ôl yn 2013, mae gennym nawr swyddfa gyfforddus ar Stryd y Bont yn Aberystwyth, ac yn teithio ledled Cymru’n cwrdd â chleientiaid hen a newydd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau digidol yn cynnwys dylunio gwefannau, gwe-letya, cyfieithu, marchnata cyfryngau cymdeithasol a mwy. Rydym yn frwd dros helpu busnesau, unigolion a sefydliadau i fynd ar-lein yn y ffordd orau bosibl iddynt, nid yn unig gyda gwefan wych sy’n ateb ei holl ofynion, ond trwy farchnata digidol effeithiol hefyd.

Yn 2016, fe agorom ni Hwb Busnes Aberystwyth lle rydym yn rhentu swyddfeydd, ystafelloedd cyfarfod a hefyd yn gweithio mewn safle gydweithredol gyfeillgar gyfforddus. Mae’n braf cael cwrdd â phobl newydd yn gyson, a chreu’r holl gysylltiadau pwysig hynny ar draws Cymru. Mae 2018 wedi’n gweld yn datblygu ac ymestyn y busnes, wrth i ni lansio Digida yn ystod mis Awst. Bydd yr adran hon o’r busnes yn canolbwyntio mwy ar y marchnata digidol, sy’n ddiddordeb arbennig gan Kerry, tra bod Emlyn yn parhau i ddatblygu Thema, sy’n ateb god agored ar gyfer gwefannau dwyieithog ar WordPress.

Mae gennym brosiectau eraill ar y gweill sy’n darogan dyfodol cyffrous yma yn Gwe Cambrian Web, a byddem wrth ein boddau’n gweithio gyda chi hefyd – felly os oes arnoch chi angen gwefan, cyngor marchnata digidol neu sgwrs gyfeillgar, cysylltwch â ni.