Rydym wedi cael dau o’n cwsmeriaid yn ein holi am negeseuon e-bost pryderus iawn a anfonwyd atynt dros y 2 ddiwrnod diwethaf. Mae ein cleientiaid wedi derbyn eu cyfrineiriau eu hunain trwy e-bost, mewn ymgais i’w hudo i gredu bod gan y sgamwyr fynediad i’w hanes cyfrifiadur / rhyngrwyd. Mae’r negeseuon e-bost yma yn ofnadwy o frawychus, ac i lawer maent yn ymddangos yn gyfreithlon iawn. Mae Action Fraud, sydd wedi rhoi rhybudd swyddogol am yr e-bost penodol hwn, yn credu y gallai’r cyfrineiriau hyn fod wedi hel  o fynediad diawdurdod at ddata hen.

Mae Action Fraud wedi cyhoeddi rhybudd am y negeseuon e-bost hyn, ac rydym yn annog ein holl gleientiaid i ddarllen y rhybudd hwn (cliciwch yma) os ydych chi hefyd wedi derbyn negeseuon e-bost i’r perwyl yma.