Pryd bynnag y byddwch yn treulio amser, egni neu arian ar eich presenoldeb ar-lein, dylech sicrhau eich bod hefyd yn edrych ar y mewnwelediadau a’r dadansoddeg. Pam? Er mwyn i chi wybod bod yr hyn rydych chi’n ei wneud yn gweithio, neu efallai bod y cynnwys rydych chi’n treulio amser yn ei greu yn ddealladwy i’ch ymwelwyr. Gyda thechnoleg ar-lein, yn aml mae cymaint o ddata wedi’i gasglu fel bod hi’n anodd gwybod beth yn union i edrych arno.

Yn yr erthygl yma, byddaf yn canolbwyntio ar ddadansoddiadau gwefan, ond cadwch mewn cof hefyd eich mewnwelediadau cyfryngau cymdeithasol a sut y gallent eich helpu i ddeall beth mae eich cynulleidfa’n ymgysylltu ag ef.

Os oes gennych wefan, yna rhaid i chi sicrhau fod dadansoddiadau wedi eu sefydlu gennych. Rydym fel arfer yn argymell defnyddio Google Analytics, mae’n rhad ac am ddim ac yn weddol hawdd ei lywio hefyd. Unwaith y byddwch wedi’ch sefydlu, gallwch hyd yn oed greu adroddiad wedi’i amserlennu gyda’r data rydych chi ei eisiau, i eich gyrraedd eich mewnflwch yn rheolaidd hefyd.

Gyda chymaint o ddata wedi ei gasglu, sut mae mynd ati? Bydd llawer o hyn mewn gwirionedd yn dibynnu ar eich nodau busnes chwi – beth ydych chi’n ceisio ei gyflawni ar eich gwefan? Mwy o werthiant cynnyrch? Ydych chi’n ceisio hysbysebu gwasanaeth ac felly eisiau i bobl lanio ar eich tudalen prisio? Ydych chi’n codi ymwybyddiaeth o frand yn unig? Oes yna alwad benodol i weithredu rydych chi am i bobl glicio arno?

Nodwch lawr eich nodau, a bydd hyn yn eich helpu i benderfynu pa ddata rydych chi am edrych arno o fewn y dadansoddeg.

Yn gyffredinol, dyma’r dadansoddeg rydw i bob amser yn edrych arnynt ar gyfer unrhyw ddadansoddeg gwefan:

  • Defnyddwyr – faint o ddefnyddwyr fu’n ymweld â’ch gwefan – newydd, a dychwelyd
  • Nifer Edrychiadau y Tudalennau – sawl tudalen edrychwyd arnynt
  • Cyfradd bownsio– % o bobl a adawodd eich gwefan neu dudalen we yn syth
  • Caffael – sut y daeth pobl o hyd i’ch gwefan, chwilio organig mewn peiriant chwilio, teipio’r URL yn uniongyrchol i’r bar cyfeiriadau, neu drwy atgyfeiriad
  • Atgyfeiriadau – lle mae pobl yn clicio dolenni ac yn gorffen fyny ar eich gwefan, hyn yn hynod bwysig – enwedig er mwyn gweld pa mor effeithiol yw eich ymdrechion ar y cyfryngau cymdeithasol, a hefyd os ydych chi’n hysbysebu ar wefan.
  • Llif ymddygiad– tracio ble mae pobl yn MYND ar eich gwefan, er enghraifft, os ydyn nhw’n glanio ar eich tudalen gartref, pa % o’r bobl sy’n mynd i’ch Siop, neu dudalen Cyswllt nesaf? Gallwch yn llythrennol olrhain y daith a gweld sut mae pobl yn defnyddio eich gwefan.
  • Tudalennau poblogaidd – y 10 tudalen mwyaf boblogaidd, efallai cewch eich synnu’n fawr gan hyn! Un o’n tudalennau mwyaf poblogaidd bob mis yw blog hen iawn ysgrifennais am ddefnyddio hashnodau ar LinkedIn, felly rwy’n gwybod bod fy ngwefan yn cael ei graddio yn ôl y geiriau allweddol hynny – sy’n golygu y dylwn wneud mwy o flogiau i helpu’r gynulleidfa honno.
  • Trosiadau – yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n defnyddio’ch gwefan ar ei gyfer, os oes gennych drosiadau clir arno (e.e. gwerthu cynhyrchion, botymau galwad i weithredu fel ‘Cysylltwch’) byddwch hefyd yn gallu olrhain a dadansoddi’r rhain.

Gallwch chi wir ddysgu llawer o’r data y mae Google Analytics yn ei gasglu, a bydd yn helpu i’ch hysbysu ble y dylech dreulio amser ar eich gwefan. Os yw llawer o bobl yn glanio ar eich tudalen ‘Amdanom’, rydych chi am sicrhau ei fod wedi’i optimeiddio gyda galwad i weithredu, neu ddolenni clir i dudalennau eraill – rhowch gymorth i’ch ymwelwyr. Efallai i chi sylwi yn y llif ymddygiad fod llawer o bobl yn gadael y dudalen ‘Amdanom’ a pheidio ymweld ag unrhyw le arall, a bydd hyn yn peri ichwi ofyn i chi ‘ch hun pam fod hynny’n bod?

Efallai y byddwch yn sylwi i chi roi llawer o ymdrech ar Twitter, ond dim cymaint ar Facebook – er bod eich atgyfeiriadau yn tueddu i ddod o Facebook. Felly, mae angen newid hyn o gwmpas, gan ei fod yn debygol mai ar Facebook mae eich cynulleidfa!

Mae’r gyfradd bownsio yn un ddiddorol iawn, a gallwch weld y gyfradd ar gyfer pob tudalen ar Google Analytics. Mae cyfradd bownsio o 30-50% yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fel un “da” ond bydd angen i chi weithio ar geisio lleihau unrhyw beth sydd dros 50%. Mae’n werth cymryd golwg i weld sut mae pobl yn dod o hyd i dudalen sydd â chyfradd bownsio uchel – er enghraifft, efallai eich bod chi’n hyrwyddo’r dudalen hon yn fawr ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae iddi gyfradd bownsio uchel. Yn gyffredinol, byddai hyn yn dangos nad yw’r dudalen yn ateb cwestiwn y cwsmeriaid yn syth pan fyddan nhw’n glanio arni, maent wedi ei clicio ar y cyfryngau cymdeithasol ond dyw’r ateb i’r broblem ddim i’w gael ar ei union. Mae hynny’n rhoi rhywbeth i chi weithio arno – naill ai dyw’r neges ddim cweit yn iawn ar y cyfryngau cymdeithasol, neu mae angen rhywfaint o waith ar ac optimeiddio’r cynnwys ar y dudalen ei hun.

Gallwch edrych ar y data – bob awr, yn dyddiol, yn wythnosol neu fisol – felly os ydych chi’n gwybod er enghraifft i chi lansio cynnyrch ac ymgyrch newydd ar y cyfryngau cymdeithasol, gallech wirio’ch dadansoddeg i sicrhau bod eich ymdrechion marchnata yn llwyddiant.

Cofiwch, y peth pwysicaf yw nodi’ch nodau yn gyntaf ac yna gallwch chi benderfynu pa ddadansoddiadau i’w defnyddio i’ch helpu i fesur llwyddiant.