Beth yw e?
Yn y bôn, cyfres o gamau a gymerir i’ch helpu i gyflawni eich nod marchnata hirdymor yw Strategaeth Marchnata Digidol.
Marchnata Digidol: Hyrwyddo busnes a’i gynnyrch a/neu wasanaethau drwy weithgareddau marchnata ar-lein. Gall y rhain gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, gyfryngau cymdeithasol, e-bost, SEO, marchnata cynnwys a Thalu fesul Clic (TFC).
Strategaeth: Cynllun gweithredu wedi’i gynllunio i gyflawni nod hirdymor.
Pam fo angen un arnoch chi?
Bydd Strategaeth Marchnata Digidol yn eich galluogi i greu ymgyrch â ffocws. Drwy gael cyfres o gamau gweithredu, ni fyddwch yn teimlo wedi’ch llethu na’ch drysu ynghylch yr hyn y mae angen i chi ei wneud i gyrraedd eich nod hirdymor.
At hynny, bydd yn eich galluogi i olrhain cynnydd yr ymgyrchoedd; cyfrifo’r gost sy’n gysylltiedig â’r ymgyrch (gan gyfrifo’ch “Adenillion ar Fuddsoddiad” – ROI); yn ogystal ag anfon neges gydlynol drwy gydol yr ymgyrch.
Creu Strategaeth Marchnata Digidol
1.Nodi eich nod marchnata hirdymor
Gall enghreifftiau o nodau hirdymor gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):
- Cynyddu ymwybyddiaeth brand
- Annog mwy o ymweliadau â’r wefan
- Cyrraedd cynulleidfa ehangach
- Cynyddu eich cyfraddau trosi (h.y. trosi eich cynulleidfa yn brynwyr).
- Dewiswch eich sianel(au) marchnata digidol
Nawr fod gennych nod mewn golwg, pa sianel(au) sydd fwyaf tebygol o weithio i chi?
Er enghraifft: os mai eich nod yw cynyddu cyfraddau trosi gallech ddewis Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO), Talu Fesul Cliciau (TFC), Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol (SMM) a Marchnata E-bost fel eich sianeli marchnata digidol.
Mae SEO a TFC yn canolbwyntio ar gynyddu ymwelwyr i wefan, sydd yn ei dro yn annog mwy o werthiannau. Gall SEO gynyddu gwelededd eich gwefannau mewn chwiliadau drwy ddefnyddio a chyflwyno geiriau allweddol. Gall TFC ar y llaw arall, roi hwb diymdroi i nifer yr ymwelwyr â’ch gwefan gan y bydd eich gwefan yn ymddangos ar ben chwiliadau (hysbysebion).
Mae Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol yn wahanol i’r ddau uchod, gan fod y ffocws ar adeiladu a meithrin perthynas ddibynadwy gyda cwsmeriaid – fydd yn troi’n werthiannau. Yn yr un modd, mae marchnata e-bost yn helpu i gryfhau ymhellach eich perthynas â chwsmeriaid ac yn denu tanysgrifwyr i brynu gennych chi, wrth i chi rannu unrhyw newyddion a gostyngiadau cyffrous gyda nhw.
- Dewis y gweithgaredd marchnata cywir
Yn bennaf gysylltiedig â Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Cynnwys oherwydd yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael.
Gallai gweithgareddau marchnata cynnwys gynnwys blogiau, fideos YouTube, podlediadau, ysgrifennu erthyglau, GIFs wedi’u personoli ac ati. Tra’n ystyried gweithgareddau marchnata sy’n gysylltiedig â marchnata cyfryngau cymdeithasol, gallech ddefnyddio fideos TikTok, Instagram Reels, Postiadau Cydweithredu, Facebook Lives, Postiadau Wedi Hybu (Boosted Posts) a llawer mwy.
Wrth benderfynu pa weithgaredd marchnata i’w ddefnyddio mae’n talu cadw eich nod hirdymor a’ch cynulleidfa darged mewn cof, a pheidiwch â bod ofn arbrofi.
Nid oes unrhyw ddau fusnes yr un fath, pam felly dylai yr un dull weithio i bawb?
- Mesur Cynnydd
Bydd mesur cynnydd a pherfformiad yn eich helpu i werthuso eich ymdrechion marchnata, a phenderfynu ar yr hyn sy’n gweithio orau i chi a’ch busnes.
Sut i fesur?
Mae digonedd o wybodaeth a dadansoddeg ar gael ac ar flaen eich bysedd – o Google Analytics i Insights! Mae’r dadansoddeg hyn yn benodol i’ch busnes a gallant roi cipolwg ar y Gyfradd Bownsio (Bounce Rate – yr amser y mae pobl yn ei dreulio ar dudalennau / gwefan benodol), Traffig Gwefan (faint o bobl a ymwelodd â’ch gwefan), Cyrhaeddiad (faint o bobl a welodd eich postiadau ar gyfryngau cymdeithasol) ac Ymgysylltu (rhyngweithio â’r gynulleidfa am gynnwys a rennir).
Bydd y math o wybodaeth a fydd o fudd i chi yn dibynnu ar eich nod hirdymor.
Crynodeb
Dyma grynodeb o’r cwestiynau allweddol y dylech fod yn eu gofyn i’ch hun wrth greu eich strategaeth marchnata digidol.
- Pwy ydych chi?
- Beth ydych chi am ei gyflawni? | Beth yw eich nod hirdymor?
- Pwy ydy nhw? | Pwy yw eich cynulleidfa?
- Sut y byddwn yn cysylltu â nhw? | Pa sianel(iau) ddylech chi eu defnyddio?
- Sut maent am gael eu cyfathrebu gyda? | Pa weithgaredd marchnata i’w ddefnyddio?
- Sut rydyn ni’n gwneud? | Mesur Cynnydd!
Peidiwch fyth â bod ofn arbrofi i weld beth sy’n gweithio orau i chi a’ch busnes. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, gallwch gysylltu â Kerry neu Catrin ar info@cambrianweb.com, rydym bob amser yn hapus i helpu os oes modd.