Gwneud i farchnata weithio i chi.

Amcangyfrifir bod person cyffredin yn dod ar draws rhwng 6,000 a 10,000 o hysbysebion bob dydd. Mae hyn yn amrywio o hysbysebion cyfryngau cymdeithasol i daflenni. Hysbysebion radio i e-bost marchnata. Does dim dianc oddi wrthyn nhw!

Felly sut allwch chi dynnu sylw atoch drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael i chi?

Yr ateb yn fyr yw deall eich cynulleidfa darged, a sicrhau bod eich ymdrechion marchnata yn adlewyrchu hyn. Gellir cyflawni hyn mewn 4 cam syml.

1. Adnabod eich cwsmer delfrydol

Po fwyaf y gwyddoch amdanynt, y mwyaf y gallwch deilwra eich ymdrechion marchnata i ddenu’r gynulleidfa gywir. Rydych hefyd yn fwy tebygol o allu rhyngweithio’n gymdeithasol â nhw ac adeiladu’r perthnasoedd cwsmeriaid hynny.

Gyda chymaint o “sŵn” a chynnwys ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y radio/ teledu y dyddiau hyn, lle da i gychwyn yw trwy deilwra eich postiadau a’u gwneud yn berthnasol ac yn gysylltiedig i’ch cynulleidfa.

Er mwyn adnabod eich cynulleidfa darged, gofynnwch:

  • Pwy ydyn nhw?
  • Beth yw eu diddordebau?
  • Beth yw eu dymuniadau a’u hanghenion?
  • Pam fyddai eich cynnyrch / gwasanaeth yn apelio atynt?
  • Sut mae nhw’n debygol o chwilio / dod o hyd i’ch cynnyrch/ busnes?
  • Beth fydden yn werthfawr ganddynt?
  • Sut/ pryd maen nhw’n debygol o ryngweithio â’ch busnes?

2. Adnabod yr hyn sy’n eich gwneud yn unigryw

Gall hyn swnio braidd yn rhy syml i fod yn effeithiol ond mae nodi eich Pwynt Gwerthu Unigryw (USP) a chyfleu hyn i’ch cynulleidfa yn un ffordd o dynnu sylw atoch.

Er enghraifft: Mae nifer y busnesau pobi cartref wedi ffynnu ers y cyfnod clo, felly mae adnabod eich USP yn allweddol. Ydych chi yn:

  • arbenigo mewn figan neu heb glwten?
  • darparu ar gyfer partïon plant?
  • greu cacennau priodas pwrpasol?
  • defnyddio cynnyrch lleol / cartref yn unig?
  • darparu pecynnau fel y gall eich cynulleidfa ail-greu eich pobi o gartref?

I adnabod eich USP meddyliwch am yr hyn sy’n eich gwneud yn wahanol, a beth yw eich gwerthoedd. Gallwch wneud gwaith ymchwil ar eich cystadleuaeth i benderfynu sut rydych chi’n wahanol.

Yna, meddyliwch am ffyrdd o gyfleu eich USP a’ch gwerthoedd i’ch cynulleidfa darged.

Ffaith: Wyddoch chi bod 71% o ddefnyddwyr yn dweud bod yn well ganddyn nhw brynu gan fusnesau sydd yn rhannu yr un gwerthoedd a hwy? Felly, mae nodi a hyrwyddo eich gwerthoedd yr un mor bwysig â hyrwyddo eich USP.

3. Adeiladwch eich presenoldeb

I werthu, yn gyntaf rhaid i chi fod yn weledol. Yn syml, ni all pobl brynu gennych os nad ydynt yn gwybod am eich bodolaeth. Dyma pam mae angen i chi adeiladu presenoldeb ar-lein.

Rydych chi wedi sefydlu’r ffordd orau o gyrraedd eich cynulleidfa darged – boed trwy gyfryngau cymdeithasol, marchnata e-bost, marchnata cynnwys (YouTube / blogiau / podlediadau), hysbysebu ar y radio , taflenni neu gymysgedd o’r uchod. Ond sut allwch chi fachu sylw’r gynulleidfa honno a chynnal y diddordeb?

Yn anffodus, ni allwch gyfleu aroglau hyfryd eich creadigaethau (os ydych yn bobydd) drwy farchnata digidol; ond gallwch dynnu dwr o’r dannedd trwy ddefnyddio lluniau hudolus! Gallwch hefyd droi sylw yn deyrngarwch drwy fod yn gymdeithasol a sgwrsio gyda’ch cynulleidfa ar-lein.

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i gael eich gweld ar-lein, defnyddiwch y swyddogaethau sydd ar gael i chi ar wahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

  • Mae reels ar Instagram a Tik Tok yn adeiladu momentwm, gan eu bod yn galluogi’r cynnwys rydych chi’n ei rannu i gael ei weld gan gynulleidfa ehangach o’i gymharu â postiadau carwsél. Mae nhw hefyd yn ffordd wych o arddangos eich personoliaeth.
  • Mae Straeon yn ffordd wych o arddangos prosiectau newydd rydych chi’n gweithio arnynt ac yn annog adborth gan y gynulleidfa.
  • Mae Instagram Live / Twitter Spaces yn ffordd wych o gynnal “datgeliad mawr” a chynnal sesiwn holi ac ateb gyda’ch cynulleidfa ar eitemau sydd eto i’w rhyddhau.
  • Mae gan Mailchimp amrywiaeth wych o dempledi ar gael os ydych chi am ddechrau marchnata e-bost. Ond beth am droi eich ymdrechion yn brofiad cymdeithasol a chynnwys newyddion perthnasol neu ddiweddariadau cyffrous fel rhan o’ch e-bost yn hyrwyddo’r hyn rydych chi’n ei werthu.

4. Byddwch yn fwy chi’ch hun – brandio personol

Yn ychwanegol i’r uchod mae’n bwysig cofio hefyd bod pobl yn prynu mewn i bobl. Drwy rannu eich cyflawniadau, yr uchafion a’r gwaelodion; mae’n galluogi i’ch cynulleidfa dalu sylw a’ch derbyn fel person, yn ogystal â’ch busnes a’ch cynnyrch. A bydd hyn hefyd yn gymorth i chi adeiladu a chryfhau eich perthynas â chwsmeriaid.

Drwy annog trafodaeth agored; ateb cwestiynau eich cwsmeriaid; arddangos eich personoliaeth yn eich ymdrech marchnata, a pheidio â chanolbwyntio ar “werthu-gwerthu”; bydd eich cynulleidfa yn gwerthfawrogi’r hyn sydd gennych i’w gynnig.

Un o fy hoff ddywediadau o ran dangos eich personoliaeth a’ch busnes ar-lein yw: “Roeddwn i’n credu nad oedd ffitio mewn yn rhywbeth yr oedd angen ei drwsio. Nawr rwy’n ei weld fel un o fy mhwerau mwyaf pwysig.”

Gobeithio bod darllen y blog byr hwn wedi rhoi gwell dealltwriaeth i chi o sut y gallwch chi dynnu sylw atoch hun o ran marchnata. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, gallwch gysylltu â Kerry neu Catrin ar info@cambrianweb.com, rydym bob amser yn hapus i helpu ble bo’r modd.

Pob hwyl!