Mae busnesau bach yn euog o osgoi cynllunio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol. Mewn gwirionedd, nid oes angen gwneud hyn. Gallai ‘ymgyrch’ swnio’n gymleth a’n frawychus, ond yn y bôn, dim ond cynllun gweithredu clir ydyn nhw i hyrwyddo cynnyrch, gwasanaeth neu ddigwyddiad.
O brofiad, rwyf wedi gweld llawer o fusnesau bach a hyd yn oed sefydliadau mwy yn mabwysiadu agwedd ‘postio a gobeithio’ ar gyfryngau cymdeithasol. Rwy’n gweithio yn y maes bob dydd, a wedi dod i adnabod y brandiau sydd â chynllun gweithredu ar waith, a’r rhai sydd heb.
Mae’r Nadolig yn enghraifft wych o hyn – anogais un o’m cleientiaid i fod yn barod gyda’u hymgyrch Nadolig ar gyfer Medi 1af. Lleoliad cerddoriaeth byw a bwyty yw’r cleient, ac erbyn mis Medi, roeddwn i’n gallu postio am y Nadolig yn syth bin. Rwyf wedi gweld lleoliadau eraill yr wythnos hon (diwedd mis Hydref) yn dechrau postio nawr – maen nhw wedi colli allan ar y 400 o bobl sydd eisoes wedi archebu gyda fy nghleient.
Mae’r Nadolig yn gyfnod clir i greu ymgyrch, yn enwedig os teimlwch fod y gair ymgyrch ei hun yn frawychus. Enghreifftiau eraill fyddai Sul y Mamau, Sul y Tadau a Chalan Gaeaf.
Gadewch i ni ganolbwyntio ar y Nadolig ar gyfer eich ymgyrch.
Mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau tymhorol fel y Nadolig a Sul y Mamau yn berthnasol i bob busnes bach ac ymgyrch – felly gadewch i ni ddefnyddio’r Nadolig fel enghraifft amserol o sut i gynllunio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol.
Gall y glasbrint hwn, fel petai, fod yn berthnasol i unrhyw ymgyrch. Gadewch i ni ddechrau gyda’r rhestr hon o gwestiynau:
Beth ydych chi eisiau ei hyrwyddo? Ai un cynnyrch ydyw? Ai dyma’ch holl gynhyrchion? Dyddiadau digwyddiadau yn y dyddiadur?
Beth yw nodau’r ymgyrch? I guro gwerthiant o 2021? Er mwyn cynyddu gwerthiant 10%? I gael x swm o bennau ar seddi?
Pryd fydd yr ymgyrch yn dechrau, ac yn gorffen? Mae hyn yn bwysig i’n helpu i guradu eich neges a’i wneud yn glir, felly nodwch y dyddiadau hynny yn eich calendr cynnwys. Dechreuwch yn gynnar, ac wrth i’r ymgyrch gyrraedd y canol a’r diwedd, cynyddwch y marchnata. Er enghraifft gyda’r Nadolig, wnes i ddim postio amdano bob dydd ar gyfer fy nghleientiaid ym mis Medi – ond fe wnaf ym mis Tachwedd.
Pa lwyfannau ydych chi’n eu defnyddio? Os ydych chi’n adnabod eich cynulleidfa, efallai y byddwch chi’n gweld y bydd elfennau o’ch ymgyrch yn fwy addas ar Facebook yn hytrach na Twitter – bydd y cyfan yn dibynnu ar yr hyn rydych chi’n bwriadu ei hyrwyddo, a beth yw eich nodau. Byddwch yn glyfar gyda sut rydych chi’n defnyddio’ch proffiliau.
Rwy’n gefnogwr mawr o gadw pethau’n syml – ac rwy’n teimlo gyda’r pedwar cwestiwn hyn gallwch chi ddechrau gweld eich ymgyrch yn gweithio yn gyflym. Rwy’n hoffi ysgrifennu pethau i lawr, neu eu rhoi ar fwrdd gwyn.
Mae gennych beth rydych chi am ei hyrwyddo, eich nodau, a phryd rydych chi’n mynd i ddechrau. O’r fan hon, gallwch ddechrau taflu syniadau ar y mathau o gynnwys a’r hyn yr hoffech ei ddweud ar unwaith.
Gallai fod mor syml â rhannu llun o un o’ch canhwyllau Nadoligaidd a chapsiwn yn dweud “Psst…mae’r Nadolig yn dod”. Taflwch syniadau am eich cynnwys a dechreuwch lenwi’ch calendr cynnwys ar gyfer hyd yr ymgyrch.
Cofiwch amrywio eich cynnwys – lluniau, carwselau, fideos, bwmerangs.
Ymgyrchoedd drwy’r flwyddyn
Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallwch chi gynllunio’ch cynnwys a’ch ymgyrchoedd ymlaen llaw. Yma yng Ngwe Cambrian Web, yr hyn yr ydym yn tueddu i’w wneud yw eistedd i lawr ar ddechrau’r flwyddyn gyda’n gilydd ac fel tîm, meddwl am ein nodau ar gyfer y busnes am y flwyddyn.
Mae hyn wedyn yn rhoi amlinelliad da iawn i’r tîm marchnata o ble rydym eisiau mynd dros y 12 mis nesaf – a sut y gallwn hyrwyddo hynny.
Gwyddom er enghraifft mai Ionawr, Chwefror, Medi a Hydref yw ein misoedd prysuraf ar gyfer ymholiadau datblygu gwefan. Felly, rydym am i’n marchnata wthio hynny – amser am wefan newydd?
Yn y bôn, rydym yn ymrannu ein nodau busnes yn ymgyrchoedd marchnata.
Mae’r un peth os ydych chi’n gwerthu nwyddau, mae’n debyg bod gennych chi ddyddiadau clir iawn yn y dyddiadur i anelu atynt: Sul y Mamau, y Pasg, Sul y Tadau, Gwyliau’r Haf ac yn y blaen – yn gyflym iawn rydych yn creu ac yn gweithio tuag at ymgyrchoedd ar gyfer y dyddiadau allweddol hyn.
Os hoffech chi gael sgwrs am eich strategaeth farchnata a’ch ymgyrchoedd – cysylltwch â ni! Byddem wrth ein boddau yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus am eich marchnata.