Heb feddwl  yn ormodol amdano, fel dylunydd gwefan rydym yn mapio taith yn awtomatig ar gyfer defnyddiwr hafan pan fyddwn yn dechrau dyluniad newydd. Mae’n  hawdd iawn dechrau arni ac anghofio am y cleient, a dim yn esbonio pam rydych chi’n gosod rhai elfennau mewn mannau penodol  ar yr hafan.

Beth yn union yw taith defnyddiwr?

Dyma sut y bydd defnyddiwr / ymwelydd gwefan yn archwilio’ch gwefan, o’r hafan i’ch tudalennau lefel ddyfnach, gyda’r gobaith y byddant yn y pen draw, naill ai yn prynu cynnyrch neu gysylltu â chi. Bydd y daith yn cynnwys mannau dal (catch-points) ar draws y ffordd (galwadau i weithredu a chysylltiadau mynych i wahanol rannau o’r safle) a fydd yn annog eich ymwelwyr i aros ar y wefan yn hirach ac archwilio mwy.

Sut byddwn ni yn cynllunio taith y cwsmer?

Mae hyn yn deillio o’n dealltwriaeth o’ch busnes,  dyna pam ein bod bob amser yn ceisio ymweld â chi os gallwn, a sicrhau ein bod wedi cael gwir afael ar yr hyn a wnewch, eich gwerthoedd ac yn y pen draw eich nodau ar gyfer y wefan. Rydym bob amser yn dechrau gyda strwythur tudalen, felly yn syml gallai hyn fod:

Hafan : Amdanom: Gwasanaethau: Archebwch Nawr: Cysylltu

Dyma 5 prif elfen y wefan (nid yn gyffredinol, ond ar gyfer y darn blog hwn). Mae angen i ni gyfeirio at y pum pwynt yma fel mae’r ymwelydd yn sgrolio trwy’r wefan, oherwydd os nad ydyn nhw’n gwybod yn union beth maen nhw’n chwilio amdano pan maen nhw’n glanio ar (a chlicio ar eitem ar y ddewislen), mae angen i chi eu denu wrth iddyn nhw bori trwy’ch tudalen. Felly, rhain yw eich meysydd gweithredu.

Wrth i’r ymwelydd sgrolio i lawr y dudalen hafan  rydych angen adrannau clir ar gyfer Amdanom, Gwasanaethau: Archebwch Nawr a Cysylltu â ni, a chyfeirio ymwelwyr at y tudalennau hynny. Yn dibynnu ar y llif a’r cynnwys, gallech ychwanegu mwy o wybodaeth o’ch is-dudalennau (efallai hanes er enghraifft) ond bydd hynny’n tueddu i ddatrys ei hun wrth i chi ddechrau adeiladu’r hafan a’r daith.

Ar ddiwedd y dudalen hafan rydych angen maes gweithredu olaf – os yw’ch ymwelydd yn cyrraedd y rhan hon o’r wefan ond nad yw wedi ei denu i unrhyw le, beth yw’r maes gweithredu olaf rydych chi am iddynt ei wneud? Gallai fod yn ‘Cysylltu â ni’ neu ‘Ein dilyn’ ar gyfryngau cymdeithasol. O dan hwn mae eich troedyn, gyda’ch gwybodaeth gyswllt, dolenni i’ch prif dudalennau, dolenni i’r cyfryngau cymdeithasol. Y troedyn yw’r man-dal (catch -point) olaf ar daith y defnyddiwr.