Colofn ddigidol Awst EGO- os ydych chi yn Aberystwyth neu Aberaeron efallai eich bod wedi darllen hwn eisoes!

Os ydych chi’n rhedeg busnes a bod gennych bresenoldeb gweithredol ar-lein, dylech feddwl am Instagram a defnyddio straeon. Cyfeirir at Instagram yn aml fel platfform cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir ar gyfer darganfod cynnyrch newydd neu sy’n ysbrydoli defnyddwyr i brynu, a chyda 1 biliwn o ddefnyddwyr gweithredol yn fisol, mae yna lawer iawn o ddarpar gwsmeriaid allan ‘na. Ond, rhaid cofio- nid yw’n addas i bawb nac chwaith yn gweddu i bob math o fenter, felly gwnewch ychydig o ymchwil i ddechrau (edrychwch ar y gystadleuaeth neu fusnesau tebyg yn eich maes efallai) a pheidiwch â thrio gwneud gormod ar unwaith.

Rhaid wastad cofio, fod delweddau yn iaith fyd-eang, ac o ran Instagram, mae’r gweledol yn allweddol. Fe’i crëwyd i fod yn blatfform hardd, felly cadwch hynny mewn cof. Ceisiwch wneud i’ch pyst edrych yn weddol unffurf (hyd yn oed y rhai thematig) – boed yr un math o arddull (e.e. unlliw) neu ddefnyddio’r un hidlwyr a fframiau. Rhai enghreifftiau gwych o borthwyr “thematig” yw @minimaliststyle a @mattcrump.

Fe unrhyw blatfform cymdeithasol, arallgyfeiriwch eich porthiant a’ch stori – peidiwch â “gwerthu, gwerthu, gwerthu” yn gyson ym mhob post; gadewch i’ch cynulleidfa weld agweddau ar y busnes na fyddent fel arfer yn eu gweld – y tu ôl i’r llenni, fel petai.

Cofiwch yr hashnod! Nid yn unig mae’n helpu i gategoreiddio’ch cynnwys (er enghraifft, #websitedesign), ond gall ond 1 hashnod  gynyddu eich ymgysylltiad hyd at 12%. Gair i gall – ysgrifennwch eich neges ac yna gadewch fwlch da cyn hashnodi.

Mae algorithm Instagram yn fwystfil anodd, felly gwnewch yn siŵr bod gennych yr amser i fod yn egnïol ar y platfform – sgwrsio â phobl, ymweld â phroffiliau eraill – po fwyaf o amser y byddwch chi’n buddsoddi, yr hapusaf fydd yr algorithm gyda chi.

Peidiwch ag anghofio sicrhau eich bod wedi cofio’r hanfodion hefyd – mae proffil busnes yn eich galluogi i ychwanegu galwad i weithredu, gwybodaeth gyswllt a gwefan. Sicrhewch fod eich llun proffil yn glir a llenwch eich bywgraffiad gyda manylion pwysig am eich busnes. Hefyd gwnewch ddefnydd llawn o fewnwelediadau, defnyddiwch y straeon i’w llawn botensial a defnyddiwch y platfform hysbysebion hefyd.

Dim ond prin crafu’r wyneb mae’r argymhellion yma ar gyfer Insta, felly – os am sgwrs bellach, cysylltwch!