Rydyn ni’n falch o gyhoeddi i ni  gyrraedd  rhestr  100 Uchaf y busnesau bach gorau ar gyfer Dydd Sadwrn Busnesau Bach eleni. Mae’r rhestr yn dewis busnesau o bob cornel o’r DU er mwyn dangos amrywiaeth a bywiogrwydd mawr busnesau ledled y wlad, ac, yn y cyfnod sy’n arwain at Ddydd Sadwrn Busnesau Bach ar y 7fed o Ragfyr bydd 100 o fusnesau’n cael eu harddangos ar y cyfryngau cymdeithasol. Nod Dydd Sadwrn Busnesau Bach yw dathlu llwyddiant busnesau bach ac annog y genedl i “siopa’n lleol”, trwy gefnogi ein busnesau bach Cymreig a Prydeinig.

Mae’n foddhad mawr i ni weld cymaint o fusnesau Cymreig ar y rhestr hon, ac o’n safbwynt ni, yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn busnes, ac wrth gwrs ein tref wledig, Aberystwyth. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at wylio ymgyrch 2019 yn datblygu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac i gysylltu â’r 99 busnes arall ar y rhestr! Hwre i bob un ohonom!