Rydym wrth ein bodd gyda WordPress, a chyda thua 30% o’r holl wefannau ar y we yn ei ddefnyddio, mae’n sicr yn rhywbeth y dylech ei ystyried pan fyddwch yn cael dylunio a datblygu gwefan newydd.

System sy’n cael ei rheoli gan gynnwys (Content Managed System -CMS) yw WordPress, sef rhaglen feddalwedd a ddefnyddir i greu a rheoli cynnwys gwefan. Mae’n caniatáu i chi fewngofnodi i’ch gwefan, diwygio cynnwys, ychwanegu tudalennau, newid delweddau ac ati yn hawdd iawn, o gymharu â gwefan a adeiladwyd yn llwyr gan ddefnyddio cod (HTML). Mae hefyd yn feddalwedd ffynhonnell agored, sy’n golygu bod iddo lawer iawn  o elfennau rhad ac am ddim. Caiff  ei ddiweddaru’n gyson ac mae ategion newydd yn cael eu datblygu drwy’r amser. Wrth gwrs, mae yna agweddau y bydd yn rhaid i chi dalu amdanynt os oes gennych ofynion arbennig ar gyfer eich gwefan, neu os hoffech i adrannau gael eu datblygu yn bwrpasol ar eich cyfer.

Rydym yn gweithio gyda WordPress fel platfform ar gyfer y rhan fwyaf o’n gwefannau, ac yn creu themâu pwrpasol ar gyfer ymdeimlad ac edrychiad y gwefannau. Er hynny, mae miloedd o themâu ar gael yn rhad ac am ddim yn ogystal. Felly os ydych chi eisiau rhoi cynnig arni’ch hun, mae’r  cyfan  yno i chi. Yn wir, rydym yn cynnig pecynnau yn seiliedig ar “adeiladu gwefan eich hun” yn defnyddio WordPress.

Mewn rhai achosion, bydd darpar gleientiaid yn gofyn yn benodol am WordPress fel sail ar gyfer eu gwefan. Dyma i chwi 7 rheswm arall pam rydym yn argymell WordPress fel CMS ar gyfer eich gwefan, yn hytrach na  opsiynau CMS eraill fel Joomla:

  1. Mae’n goroesi amser ac yn hawdd ei raddio – gallwch ddechrau gyda gwefan syml un dudalen ond gallwch ei hymestyn yn hawdd dros amser am ddim llawer o gost.
  2. Mae’n hawdd ei ddysgu ac, oherwydd ei fod yn ffynhonnell agored ac yn boblogaidd iawn, mae cymuned enfawr ar-lein yn rhannu syniadau newydd, fideos technoleg a thiwtorialau.
  3. Gallwch greu unrhyw fath o wefan trwy ei ddefnyddio, felly nid ydych ynghlwm i flog neu siop ar-lein yn unig.
  4. Mae WordPress yn beiriant chwilio hynod cyfeillgar, sy’n datrys llawer o faterion SEO yn awtomatig (yn ôl y peiriannydd Google, Matt Cutts).
  5. Gallwch ychwanegu ymarferoldeb heb logi datblygwr. Er enghraifft, am ymestyn eich gwefan i gynnwys siop ar-lein? Ychwanegwch WooCommerce!
  6. Mae WordPress yn ddiogel iawn, wedi ei ddatblygu gyda diogelwch yn flaenoriaeth. Mae WordPress yn cyflwyno diweddariadau yn aml i helpu gyda diogelwch, ond mae yna hefyd lawer o ategion i ychwanegu’r haenau ychwanegol hynny. Wrth gwrs, nid ydym yn honni ei fod yn amhosib ei hacio, d’yw’ch wefan ond mor ddiogel â’r diogelwch rydych chi’n ei osod arni, ond mae WordPress yn eich helpu i wneud hyn.
  7. Yn olaf, mae WordPress yn eich galluogi i ddefnyddio gwahanol fathau o gyfryngau yn hawdd, felly nad ydych yn gyfyngedig o ran uwch lwytho fideos, lluniau neu ffeiliau sain.