Roeddem wrth ein bodd i dderbyn y newyddion ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 2 wobr yn Rowndiau Terfynol Rhanbarthol Gwobrau Busnes Gwledig Cymru a Gogledd Iwerddon eleni, sef y Busnes Bach Gwledig Gorau a’r Busnes Gwasanaethau Proffesiynol Gwledig Gorau!
Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn dros y 18 mis diwethaf i bob busnes bach ledled y wlad, felly mae’n golygu cymaint i ni gael ein henwebu a chyrraedd y rhestr fer.
Edrychwn ymlaen at y digwyddiad rhithwir ym mis Hydref, croeswch eich bysedd droso ni yng nghategorïau y Busnes Bach Gwledig Gorau a’r Busnes Gwasanaethau Proffesiynol Gwledig Gorau. Hei lwc!