Rydym yn siarad llawer am frandio, ond efallai nad yw’n glir beth yw brandio, a lle mae’ch logo yn hyn i gyd. Rhan o’ch brand yn unig yw’r logo  (rhan bwysig, ond rhan fach), ac felly i greu brand cryf mae llawer o agweddau eraill i’w hystyried.

Beth yw brandio?

Rydym yn rhoi sylw manwl i hyn yn ein blogiau eraill, ac efallai y byddwch hefyd wedi gweld post ddiweddar yn EGO Aberystwyth am Bwysigrwydd Brandio. Yn gryno, bydd eich brandio yn cwmpasu cynllun lliw’r busnes, y ffontiau rydych chi’n eu defnyddio wrth farchnata, yr arddull o farchnata (er enghraifft, dyluniad eich llythyrau, taflenni, cardiau busnes), eich logo a’ch cynnwys cyfryngau cymdeithasol . Dylai fod cysylltiad clir, cryf rhwng popeth a wnewch ar-lein ac all-lein, fel y gall cwsmeriaid weld yn glir ei fod yn rhan o’ch busnes.

Felly, mae’ch logo yn rhan o’ch brandio, nid eich brand chi ydyw ar ben ei hun, ac yn sicr os  mai logo yn unig sydd gennych, peidiwch a thybio bod gennych frand.

Beth yw logo?

Delwedd neu eicon a ddefnyddir i gynrychioli eich busnes (neu gynnyrch, neu frand) yw logo. Mae’n nhw i’w gweld  ymhobman, ond y tu cefn i bob logo allwch feddwl amdano mae brand cryf da.