Ddydd Sadwrn 29 Medi 2018, buom yn bresennol mewn ddigwyddiad disglair ym Mhrifysgol Bangor – Gwobrau Busnes yr Ifanc Gogledd Cymru 2018. Mae busnes yr ifanc yn cyfeirio at unrhyw fusnes sy’n cael ei redeg gan rywun dan 35 oed.

Roedd yr ystafell yn llawn o fusnesau o ar draws y gogledd a oedd wedi eu henwebu ar restr fer mewn ystod o gategorïau – o Salon y Flwyddyn i Fusnes Ffitrwydd y Flwyddyn. Roeddem yn ffodus i fod ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr ar y noson, Busnes Creadigol y Flwyddyn a Busnes Ar-lein y Flwyddyn. Yn dilyn cinio 3 chwrs blasus, dechreuodd y seremoni wobrwyo a chawsom ein syfrdanu’n llwyr i ennill Busnes Ar-lein y Flwyddyn 2018! Mewn digwyddiad mor ysbrydoledig sy’n llawn busnesau anhygoel, rydym yn teimlo’n wir lwcus i gael ein dewis fel enillwyr y categori cryf hwn! Felly, diolch mawr i’r trefnwyr a llongyfarchiadau i bawb arall a oedd yn yr ystafell! Cadwch ymlaen gyda’r  gwaith da a rhoi gogledd Cymru ar y map!