Mae brandio yn ffactor mor bwysig pan yn rhedeg busnes, ond ydych chi wedi ystyried rhai camgymeriadau brandio hanfodol a allai gostio’n ddrud i’ch busnes? Dim jyst y logos sydd wedi’u cynllunio’n wael yn unig, ond enw y brand, gwerthoedd / negeseuon anghyson a mwy. Mae brand yn cwmpasu cymaint mwy na dim ond logo.

Felly, pa gamgymeriadau dylid eu hosgoi?

  1. Osgoi creu logo dadleuol – wrth gwrs os ydych chi’n fusnes mawr neu’n endid corfforaethol, fe allech chi fod o’r farn bod pob cyhoeddusrwydd yn gyhoeddusrwydd da… ond allwch chi fforddio hyn os ydych chi’n fusnes bach neu ar gychwyn? Rydych chi eisiau creu logo sy’n creu argraff, nad yw’n sarhau ac yn gweithio’n dda i chi a’ch nodau brand cyffredinol. Bydd brand cryf yn gofiadwy (ie, helo Apple). Crëwch logo sy’n niwtral, yn gweithio’n dda i chi a sydd yn mynd i weithio yn y
  2. Peidiwch â defnyddio ffontiau hen ffasiwn! Mae ffontiau mor bwysig i’ch brand, hyd yn oed os yw’ch logo yn ddelwedd, dylech gynnwys un neu ddau o ffontiau fel rhan o ganllawiau eich brand. Os yw’r ffontiau hyn yn hen, wedi dyddio ac yn anneniadol  (e.e. Comic Sans & Papyrus)  yna dyma’r neges fyddwch chi’n ei gyfleu. Does dim byd o’i le ar ddiweddaru rhai o’ch ffontiau, cyn belled nac ydyw yn digwydd yn  rhy aml a bod y defnydd yn rhedeg yn gyson trwy eich brand. Dylech hefyd feddwl am osodiad a bylchiadau llinellau hefyd – efallai y byddwch chi’n dod o hyd i ffont sy’n edrych yn wych gyda mwy o fylchiadau, a bydd defnyddio ffont ffres modern yn gweithio rhyfeddodau i’ch brand.
  3. Mae cysondeb yn allweddol – yn enwedig gyda brand. Yma, dewch i ni ganolbwyntio ar liwiau. Eto, agwedd arall ar frandio y mae llawer o fusnesau yn ei diystyru, ond unwaith eto, mae bod yn gyson â’ch dewisiadau lliw mor bwysig. Os yw’ch gwefan a’ch brandio ar-lein yn defnyddio lliwiau penodol ( er enghraifft, gwyn, llwyd a phorffor) yna mae angen i’ch marchnata all-lein adlewyrchu hyn. Peidiwch â dechrau defnyddio lliwiau hollol wahanol oherwydd eu bod yn edrych yn dda, neu byddwch chi yn colli’ch cysondeb a’ch cryfder brand. Ydy hynny’n wirioneddol bwysig? … Ydy! Os ydych yn anfon negeseuon cymysg, gallai un rhan o’ch ymgyrch farchnata edrych yn ffug neu sbam, a byddwch yn colli ymddiriedaeth cwsmeriaid. Felly, cofiwch ddangos cysondeb o ran lliwiau, ffontiau ac estheteg gyffredinol
  4. Peidiwch â gorddefnyddio’ch logo. Beth bach hwyrach, ond byddwch yn synnu faint o bobl sy’n gor-ddefnyddio eu logos ym mhob agwedd ar farchnata, a bydd yn amharu ar y neges. Crëwch frand cryf gyda chanllawiau manwl, a gallwch chi ddefnyddio’ch logo mewn ffyrdd llai amlwg. Ar y llaw arall, d’yw Apple fel arfer ond yn defnyddio eu logo,  rhan fwyaf o’r amser ni fyddant  hyd yn oed yn defnyddio’r gair “Apple” yn eu hysbysebu!
  5. Peidiwch â gorlenwi’ch marchnata. Mae hwn yn beth mor hawdd i’w wneud, yn enwedig os oes gennych lawer o wybodaeth rydych chi am ei gyfleu – ond weithiau mae bod yn fyrrach a symlach yn well. Mae’n llawer mwy trawiadol i’r llygad ac os yw’n llai anniben, bydd pobl yn fwy tebygol i bwyllo a darllen y cyfan.
  6. NID YDYCH I FOD I gopïo rhywun arall! Mae wedi’i wneud gan y busnesau mwyaf, pwy sy’n cofio Zara vs Tuesday Bassen? Roedd Tuesday Bassen yn creu darluniau hyfryd yr oedd Zara wedyn yn eu defnyddio  fel rhan o’u brandiau – yn ddi-ganiatad – hyd nes i Bassen  amlygu’r “lladrad”. Felly, peidiwch â chopïo syniad, brand neu flog arall. Mae’n wych cael eich ysbrydoli gan eich cystadleuwyr, gweld beth mae nhw’n ei wneud, cael blas ar y mathau o frandiau sy’n gweithio’n dda, ond byddwch yn unigolyn!
  7. Yn olaf, ceisiwch osgoi bod yn ddiflas. Rydych chi eisiau sefyll allan fel busnes ac fel brand, felly buddsoddwch yr amser, ymdrech ac arian i wneud hynny. Os nad ydych yn sefyll allan, byddwch yn ddiflas, a tydi hynny byth yn beth da ar gyfer busnes.