Rydym wastad wedi bod yn griw agored iawn yma yn Gwe Cambrian Web, felly  dyma ichwi rai cwestiynau ac ystyriaethau y dylech chi feddwl amdanynt wrth ddewis eich dylunydd gwefan nesaf.

A oes ganddynt bortffolio?

Bydd llawer o ddylunwyr gwefannau yn arddangos portffolio o’u gwaith neu eu gwaith diweddar ar eu gwefan. Mae bob amser yn werth edrych i weld a ydynt wedi gwneud unrhyw brosiectau tebyg i’ch un chi (ar gyfer profiad) yn ogystal â gwirio amrywiaeth y gwaith a’r arddulliau. Os nad oes gan gwmni bortffolio  i’w gynnig neu nad yw wedi’i ddiweddaru ers spel, gofynnwch iddyn nhw! Mae’n debyg bod ganddynt reswm da dros beidio arddangos eu cleientiaid.

Pa mor dda mae nhw’n gweithio hefo ymatebolrwydd symudol?

Mae bob amser yn werth gofyn, gan ein bod yn dal i weld gwefannau’n cael eu lansio nad ydynt yn ymatebol yn symudol (syfrdanol, rydym yn gwybod!). Felly gwnewch yn siŵr y gall eich dylunydd gwefan newydd weithio gydag ymatebolrwydd.

Beth yw’r broses ddylunio?

Peth da yw cael hyn yn glir o’r cychwyn; yn ogystal, mae pawb yn gweithio mewn ffordd wahanol hefyd! Efallai y bydd un cwmni’n disgwyl derbyn yr holl gynnwys gennych  cyn iddynt ddechrau, tra bydd un arall yn gweithio ar rai cysyniadau dylunio yn gyntaf. Gallwch weld ein proses ni yma, ond rydym yn eithaf hyblyg gan i ni weithio’n agos gyda’n holl gleientiaid drwy’r broses.

A allant ddarparu geirda?

Mae’r wefan hon yn mynd i gynrychioli eich busnes a chi am ychydig o flynyddoedd o leiaf. Felly, does dim byd o’i le trwy edrych ar eirda, adolygiadau neu hyd yn oed ofyn amdanynt gan eich dylunwyr posibl. Does ganddynt  ddim i’w guddio!

A yw eu prisio yn glir?

Unwaith eto, os nad yw’r prisiau ar wefan – gofynnwch, ond gwnewch yn siŵr bod yr ateb yn glir. Rydym ni yma bob amser yn nodi’r pris ynghyd a’r wybodaeth beth ma hyn yn ei gynnwys, pris y wefan, pris y gwe-letya, enwau parthau ac ati ac gwneud yn siŵr fod hyn i gyd yn glir i’r cleient. Ceisiwch osgoi, neu cwestiynwch,  y rhai sy’n darparu pris “cyffredinol”, neu ceisio nodi cyfanswm yr oriau fesul dyfynbris. Rydych wir angen dyfynbris sy’n cynnwys pob dim rydych angen i mynd yn fyw heb gyfyngiad o oriau neu ddiwygiadau.

Yn olaf, all y dylunydd weithio gyda chi yn y dyfodol?

Mae hyn hefyd yn rhywbeth i’w wirio. Bydd rhai dylunwyr ond yn cynllunio a chyhoeddi yn hytrach a bod ag unrhyw amcan i weithio gyda chi yn y dyfodol. Cofiwch, peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth. Peidiwch a bod yn swil  –  wedi’r cyfan yna i’ch cynrychioli chi mae’r wefan!