Ddydd Gwener 12 Hydref gwelwyd Gwe Cambrian Web yn mynd ar daith i Fanceinion, ar gyfer rownd ranbarthol Gwobrau Cenedlaethol Forward Ladies. Roedd Kerry wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn, ar gyfer Gogledd Orllewin Lloegr, Cymru a Gweriniaeth Iwerddon!

Felly pwy yn union yw Forward Ladies? Grwp rhwydweithio ydynt sy’n cysylltu merched â chyfleoedd, rhwydweithiau, busnesau a’r arbenigedd sy’n eu grymuso. Sefydlwyd Forward Ladies yn 1999, ac mae ganddynt ystod o gleientiaid proffil uchel, gan gynnwys Yorkshire Water, Sage UK a United Utilities.

Cafwyd araith anhygoel gan Helen Walbey am ei siwrnai o fod yn ferch ifanc ddigartref i fod yn Wonder Woman- os  cewch gyfle i wrando arni, ewch!

Roedd y prynhawn yn gyfle rhwydweithio gwych – roedd yr ystafell yn llawn ysbrydoliaeth i pawb o’r sawl sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain i’r rhai sy’n gweithio i gwmnïau sy’n arwain y ffordd. Roedd yn syndod mawr i Kerry pan ddaeth yn fuddugol yn ei chategori, ond  yn gamp fawr hefyd – mae gennym gynlluniau gwych ar gyfer 2019 ac fel y dywedwyd eisoes, mae cael eich cydnabod am eich cyflawniadau yn hwb hyder enfawr eich bod chi ar y trywydd iawn.

Mae’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar y 7fed o Ragfyr yn Leeds, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr! Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, cadwch ymlaen i ysbrydoli!