Tydi ond yr wythnos gyntaf yn Ionawr a mae Facebook wedi cyhoeddi rhai newidiadau sylfaenol i dudalennau busnes ar y platfform – i gyd er mwyn creu’r profiad tudalennau newydd hwnnw! Ac y newid mawr mae pawb yn sôn amdano? Dileu’r nodwedd HOFFI/LIKE! Fyddwch chi ddim mwyach yn gallu HOFFI tudalen, ond yn hytrach byddwch chi’n gallu dilyn tudalen

Os oes gennych eisoes dudalen fusnes ar Facebook, mae’n debyg y byddwch wedi sylwi ers tro fod gennych gyfrif Hoffi a chyfrif Dilynwr. Gall pobl hoffi eich tudalen ond dewis peidio a’i dilyn – sy’n golygu iddynt ddal ei hoffi, ond na fyddant yn gweld dim o’ch cynnwys. Rydyn ni wedi dweud ers tro bod hi’n bryd anwybyddu’r Hoffi, ond mae’r newid yma gan Facebook yn atgyfnerthu hynny.

Ar hyn o bryd, gallwch ddewis newid i’r profiad tudalen newydd os ydych chi’n fusnes ar Facebook, ond ein teimlad ni yw na fydd yn hir cyn i’r newid ddod yn angenrheidiol (y’ch chi’n cofio pan wnaethon nhw newid i’r Facebook ‘newydd’ ym mis Medi 2020? Roedd hynny wedi bod ar gael fel opsiwn ers misoedd!).

Newid i’r profiad tudalen newydd a’r hyn sydd angen i chi ei wybod

  • Os oes gennych chi bobl nad ydynt yn eich dilyn chi ar y profiad tudalen ‘clasurol’, fyddan nhw ddim chwaith yn eich dilyn pan fyddwch chi’n newid. Sy’n golygu, mewn gwirionedd na fydd dim byd yn newid i chi, ond efallai y byddwch chi’n gweld ychydig llai o nifer ar y cyfrif dilynwyr hwnnw nag yr oeddech chi efallai ‘n ei ddisgwyl os byddwch chi fel arfer ond yn ystyried nifer eich Hoffi/Likes.
  • Mae gan y profiad tudalen newydd gynllun dylunio newydd (Hwre … neu ddim! Gawn ni weld.)
  • Ffordd hawdd o gyfnewid rhwng eich proffil a thudalennau
  • Diweddariad Rheoli tudalennau– gallwch roi rheolaeth lawn neu rannol i’ch gweinyddwyr tudalennau.
  • Ffrwd newyddion pwrpasol ar gyfer eich tudalen – rydyn ni’n caru’r syniad hwn, ac wedi ei golli pan gafodd ei ddileu ers llawer dydd. Bydd yn wych cael hyn yn ôl oherwydd bydd yn haws i chi allu cyfathrebu â’r sawl mae’ch busnes am ryngweithio gyda. Ers tro rydym wedi gweld colled y nodwedd hon, a dyna pam bod platfformau eraill yn well ar gyfer busnes.
  • Mewnwelediadau wedi’u diweddaru – fydd yn gwneud hi’n haws ichi ddeall eich cynulleidfa.

Amser ffarwelio â…

  • Hoffi tudalennau – trafodwyd hyn cynt
  • Rolau tudalen glasurol
  • Offer cyhoeddi – fe wyddom fod hyn ar droed, ac mae’n rhywbeth bu i ni sôn llawer amdano mewn gweminarau ar ddiwedd 2020 – rhowch groeso i Creator Studio a Business Manager.
  • Nodweddion busnes – ie, swyddi, apwyntiadau, cynigion a rhestrau Marketplace i gyd yn DIFLANNU. Bydd hyn yn ddiddorol iawn ac yn newid mawr.
  • Nodweddion clasurol fel adolygiadau, check-ins a thempledi.

Edrych yn debyg bydd angen i ni ailysgrifennu ein gweminar Facebook yn llwyr felly!