Newyddion gwych i fusnesau bach heno wrth i Facebook gyhoeddi eu bod yn cyflwyno “Siopau Facebook”  o heddiw ymlaen! Daw hyn ynghyd ag ymdrech barhaus Facebook i helpu busnesau a’r gymuned yn ystod y pandemig coronafirws ledled y byd, ac mae wedi rhyddhau llawer o’r nodweddion yr oeddent am eu rhyddhau yn ystod 2020 yn fuan.

Mewn gwirionedd rydym wedi medru gwerthu cynhyrchion ar Facebook ers tro, tagio eitemau ar dudalennau ac mewn straeon ac ati. O’r cyhoeddiad heno, mae’r Siopau Facebook newydd i weld fel y byddant yn  gaffaeliad  enfawr i berchnogion busnesau bach. Byddant yn gyflym ac yn hawdd i’w creu o’ch tudalen Facebook, a byddant yn ymddangos ar eich Facebook ac Instagram, (ac yn fuan ar Messenger a WhatsApp hefyd).

Un peth da am y Siopau Facebook newydd yw na fydd angen ap newydd ar eu cyfer – byddant o fewn yr ap neu’r rhaglen bwrdd gwaith gyfredol a ddefnyddiwch. Ffaith enfawr arall yw fod Facebook ar hyn o bryd yn gweithio gyda phartneriaid fel WooCommerce, Shopify, BigCommerce, Cafe24 a mwy fel y gallwch chi fel busnesau bach gyfannu eu gwefan yn hawdd gyda’r siop Facebook.

Credwn bod hyn yn newyddion mawr i ddefnyddwyr Facebook a busnesau ar y platfform. Rydyn ni  wastad wedi dweud mai cael gwefan a gwneud y gorau o’ch cyfryngau cymdeithasol yw’r ffordd orau i lwyddo, ond mae hyn yn ychwanegu haen arall eto. Ffordd arall o gyrraedd mwy o gwsmeriaid, a ffordd arall o werthu eich cynhyrchion.

Ar y ffordd yn fuan…

Cafwyd cyhoeddiadau hefyd y bydd mwy o nodweddion i siopau yn dod yn fuan. Cofiwch bod y  nodwedd hon ar y cyfan wedi ei chyflwyno ar frys er mwyn helpu busnesau bach yn ystod y pandemig … Bydd y nodweddion newydd i gyd yn ymwneud â helpu cwsmeriaid ddod o hyd i’ch busnes bach a darganfod eich cynhyrchion ar Facebook ac Instagram. Bydd tab siopa pwrpasol ar Instagram, gyda nodwedd chwilio y tu mewn iddo. Gwyddom eisoes bod nifer fawr o bobl yn prynu o’r platfform hwn ac mae’r nodweddion newydd yma yn mynd i roi hwb fawr i hyn dros y misoedd nesaf.

Nodwedd newydd arall sydd ar ei ffordd fuan ar draws Facebook ac Instagram yw Siopa Byw/Live Shopping. Mae’n debyg y bydd hyn yn caniatáu ichi siopa ar Live mewn amser real (nid ydym yn siŵr sut byddwch yn defnyddio hwn –  amser a ddengys!)

Ac yn y dyfodol pell, mae Facebook yn bwiriadu defnyddio realiti estynedig ac AI i wella’r profiadau siopa hynny hefyd. Wel, maen nhw wastad wedi bod yn geffyl blaen!