Mae’n hawdd weithiau teimlo, er gwaethaf cymryd rhan mewn llawer o wahanol grwpiau neu fentrau busnes, nad yw’n rhywbeth i frolio amdano. Efallai ei fod yn lletchwith neu’n embaras – nid ydych chi am eich canmol am y gweithgareddau “ychwanegol” hyn rydych chi’n eu gwneud y tu allan i’ch busnes. Yn sicr mae hyn yn agwedd o fusnes yr oeddwn yn teimlo’n anesmwyth amdano – os bydd rhywun yn gofyn i mi beth rwy’n ei wneud, rydw fel arfer yn rhoi ateb cyffredinol megis “Rwy’n rhedeg busnes dylunio gwefannau a marchnata digidol yng nghanolbarth Cymru.” Ond gall fod yn ddefnyddiol i eraill yn y gymuned wybod beth yw eich cryfderau, yr hyn yr ydych yn ymwneud â hwy a beth yw eich diddordebau – sydd yn wych ar gyfer adeiladu rhwydwaith cryf.

Felly, pan ddeuthum ar draws yr ymgyrch #ialso ar Twitter, mi ganodd cloch gyda mi. Rydw i wedi cymryd rhan mewn nifer o fentrau a grwpiau eraill, ond mae rhestru’r rhain mewn senario rhwydweithio cyffredinol i mi yn wirioneddol lletchwith. Ond beth yw’r ymgyrch #ialso?

#ialso yw syniad a ddeilliodd  o gyfarfod brecwast gynhaliwyd gan f:entrepreneur ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018. Dyma sut mae  f:entrepreneur yn disgrifio beth digwyddodd:

“Roedd y cyfarfod ar gyfer 25 o bobl anhygoel sy’n gweithio ym myd menter entrepreneuriaid benywaidd. Tra’n cyflwyno o gwmpas y bwrdd, y geiriau a glywyd amlaf oedd FI HEFYD/I ALSO. Nid cyfarfod o CV’s cyffredin mo hwn, roedd  yn llond bwrdd o brofiad anhygoel, dewrder, gwaith caled ac arloesol a  dyma ni’n meddwl – a yw hyn yn duedd gynyddol? Ydyn ni’n symud o yrfa portffolio swydd sengl i fyd lle mae’n iawn gwneud llawer o bethau, yn aml yn cydgysylltu, ar yr un pryd ar draws ein gwaith a’n sbectrwm personol – a bod yn angerddol amdanynt i gyd? Credwn fod hyn yn rhywbeth i’w ddathlu felly crëwyd yr ymgyrch #ialso. “

Felly, lansiwyd f:Entrepreneur #ialso Top 100! Mae’n dathlu ac adrodd stori 100 uchaf  entrepreneuriaid benywaidd ledled y DU … Os ydych chi’n gwirio’r rhestr, fe welwch fy enw o dan K 🙂

Gweler Rhestr 100 Uchaf  2019!