Cawsom noson wych yn Noson Wobrwyo Arwyr Lleol Radio Ceredigion 2018 a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Cliff. Wrth gwrs, roedd yr ystafell yn llawn o bobl ysbrydoledig ar draws ystod o wobrau, o Mam y Flwyddyn i Chwaraeon y Flwyddyn ac wrth gwrs, Ysbrydoliaeth y Flwyddyn.

Buom yn ddigon ffodus i noddi’r Hyrwyddwr Cymunedol 2018 – enillwyd gan ddyn bendigedig o’r enw Ian Stoker (gweler y llun isod!). Mae Ian yn treulio hyd at 9 awr y dydd yn casglu sbwriel ac yn clirio baw cŵn o gwmpas ei ardal leol, a derbyniodd 77 enwebiad ar gyfer y wobr hon ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefan Radio Ceredigion. Roedd yn fraint ac yn ysbrydoliaeth i ni i gael mynd  a helpu ein hardal leol a’n cymuned ym mha fodd bynnag y gallwn.

Hoffem ddiolch i Radio Ceredigion am y croeso cynnes unwaith eto, a llongyfarchiadau mawr ar y 4ydd Gwobrau Arwyr Lleol. Mae’n wirioneddol bleser cael cydnabod a gwobrwyo y pobl hynny sydd mor hanfodol i’n cymunedau yma yng Ngheredigion.