Bu’n bleser o’r mwyaf gweithio gydag Ysgol Gyfun Aberaeron ar lansiad eu gwefan newydd – sydd yn dra gwahanol i, a gwell, na’r hen un! Roedd yr hen wefan wedi dyddio’n fawr, gyda cynnwys chwyddedig, ac roedd hefyd yn anodd iawn i’r staff fewngofnodi a golygu -a dyma ble dechreusom ni – a WordPress!
Roedd angen i’r wefan newydd fod yn ddwyieithog, gyda staff yn gallu diweddaru tudalennau a gwybodaeth yn ôl yr angen. Roedd yr ysgol hefyd eisiau newid y fwydlen yn llwyr, gan ei gwneud hi’n llawer haws i ymwelwyr i’r safle ddod o hyd i’r wybodaeth angenrheidiol cyn gynted â phosib.
Gyda’r pandemig yn parhau, roedd hefyd yn bwysig i Ysgol Gyfun Aberaeron fod adran bwrpasol ar gyfer ‘nosweithiau agored’ rhithwir – gan roi cyfle i ddisgyblion ym Mlwyddyn 6 a Blwyddyn 11 ymchwilio a chael y golwg orau posibl o’r ysgol, a dysgu am yr holl bynciau ac adrannau gwahanol – er mai ar-lein yn unig ydoedd.
Fe lansiwyd y wefan newydd yn y mis Ionawr, a hynny mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn newydd. Ymwelwch â’r safle yma: https://ygaberaeron.org.uk/