Blwyddyn Newydd Dda! Bu llawer o newidiadau i Facebook yn 2020 – sydd yn parhau wrth i ni wynebu 2021. Yr wythnos hon maent wedi cyhoeddi rhai newidiadau eithaf mawr i Dudalennau Busnes Facebook, sy’n cael eu galw’n Brofiad Tudalennau Newydd.

Pwynt pwysig cyntaf – ar hyn o bryd mae’n ddewisol newid rhwng y Dudalen Busnes Clasurol a’r Profiad Tudalen Newydd, yn debyg iawn i sut oedd hi i ddefnyddio’r Facebook ‘Newydd’ yn 2020 nes iddynt orfodi’r newid ym mis Medi.

Ail bwynt pwysig – mae cynnwrf mawr fod yr Hoffi (Likes) yn cael ei ddileu, ond yn ein barn ni, nid dyna, yn sicr, y newid pwysicaf na’r un rhyfedda. Gadewch i ni weld:

Beth sy’n newydd?

  • Gadewch i ni edrych ar Hoffi/Likes yn  gyntaf – ie, mae Facebook yn cael gwared ar Hoffi/Likes.  Fodd bynnag, am flynyddoedd lawer ar eich tudalen fusnes byddwch wedi sylwi bod gennych Hoffi a Dilynwyr  (Likes and Followers). Mae cleientiaid yn aml yn gofyn beth yw’r gwahaniaeth –  yn fyr, gall person Hoffi’ch tudalen, ond nid eich dilyn. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n gweld unrhyw beth o’ch cynnwys pan fyddwch chi’n postio, ond gallwch chi dal eu cyfrif o fewn eich rhifau Hoffi/Likes. Ers amser bellach rydyn ni wedi bod yn gynghori cleientiaid i ganolbwyntio’n fwy ar y dilynwyr a’r ymgysylltiadau, a llai ar y nifer sy’n hoffi eich tudalen. Mae Facebook yn cytuno –  fe wyddon nhw bod ymgysylltu yn allweddol, a fod metrigau ymffrostio megis y botwm Hoffi, bron yn segur nawr. Felly, ffarwel Hoffi, croeso Dilynwyr.
  • Bydd Facebook yn ei gwneud hi’n haws i chi newid rhwng eich proffil personol a’ch tudalen fusnes –fydd hi’n ddiddorol gweld sut bydd hyn yn gweithio!
  • Newid mawr rydym ni’n ei groesawu –ffrwd newyddion pwrpasol ar gyfer eich tudalen fusnes.  Yn rhyfedd ddigon, tua 10 mlynedd yn ôl roedd hyn yn bod, gallai eich tudalen ddilyn a hoffi eraill ac yna fe allech chi sgrolio’r ffrwd honno a rhyngweithio â’r tudalennau hynny yn unig. Sydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’ch ffrwd newyddion personol, os nad oes angen i chi ddilyn tudalennau mae eich busnes yn rhyngweithio â nhw. Gallwch wneud hyn nawr i raddau, ond rydym yn bersonol yn falch iawn o weld y nodwedd hon yn dychwelyd. Yn ystod 2020, roedd yn un o’r elfennau oedd wir yn ddiffygiol i ni ar Facebook, rydym eisiau ryngweithio â’n cleientiaid a’n cyflenwyr, ac roedd Instagram a Twitter yn ei gwneud hi’n gymaint haws.
  • Mae’n debygol bod Facebook yn mynd i gyflwyno gwelliannau i’r Mewnwelediadau/Insights, er mwyn helpu i ni ddeall ein cynulleidfa yn well a pha mor dda mae ein cynnwys yn perfformio – rydym yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am rhain!
  • Rolau tudalen newydd – neu’n hytrach, diweddariad rheoli tudalennau  – dim mwy o wybodaeth eto ar Facebook felly  byddwn yn cadw llygad ar hyn.
  • Dyluniad newydd, sgleiniog, hawdd – yn ôl y sôn! Bydd rhaid i ni aros i weld hyn.

Mae popeth arall fwy neu lai yn aros yr un peth… felly gadewch i ni weld beth fyddwn yn ei golli. Dyna pam ry’ni’n synnu braidd fod pawb yn gwneud cymaint o stŵr am golli Hoffi pan fo rhai pethau allweddol yn diflannu…!

Ffarweliwch â…

  • Rolau tudalen glasurol, fel ag y crybwyll uchod, does dim llawer o wybodaeth eto ond cyn gynted ag y gwyddom, byddwn yn postio amdano!
  • Bydd offer cyhoeddi hefyd yn diflannu – rydym wedi crybwyll hyn lawer yn ystod y misoedd diwethaf yn ystod gweminarau ac ymgynghoriadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedden ni wir yn teimlo bod Facebook yn rhoi llawer o ymdrech  i Creator Studio a mae Kerry wrth ei bodd i gael ei phrofi’n iawn! Dywed Facebook fod Nodiadau, postiadau wedi’u pinio, postiadau wedi’u trefnu a chroes-bostio i gyd yn diflannu. Bydd rhaid aros i weld sut bydd Creator Studio a Business Manager yn llenwi’r bwlch.
  • Bydd rhai nodweddion *eithaf defnyddiol* hefyd yn diflannu yn ôl post Facebook – swyddi, apwyntiadau, cynigion a rhestrau Marketplace. Ddaw rhywbeth yn eu lle? Pwy â ŵyr!
  • Ac yn olaf, ffarwelio â rhai nodweddion Tudalen Clasurol eraill – adolygiadau (sydd wedi eu galw’n argymhellion ers peth amser – a fydd rhain yn aros?), ‘check-ins’ a thempledi tudalennau.

Felly, mae’n newid enfawr. Bydd angen i ni ailysgrifennu ein gweminarau Facebook yn llwyr ond peidiwch a phoeni, rydym am fynd ati ar unwaith i wneud y newidiadau ar un o’n tudalennau fel y gallwn ddysgu’r ffyrdd newydd o weithio cyn gynted â phosibl.