Os ydych yn rhedeg tudalen Facebook, efallai i chi weld yr hysbysiad newydd ar y brig yn rhoi gwybod i chi y bydd y bathodynnau llwyd (a oedd yn dilysu’ch busnes fel un go iawn) yn diflannu yn fuan!

Yn ôl pob tebyg, mae Facebook wedi penderfynu, ar ôl derbyn adborth, bod cael dau dic (glas a llwyd) yn ddryslyd. Bydd y rhai glas yn aros – ticiau ar gyfer brandiau, ffigurau cyhoeddus neu enwogion fydd rhain (yn hytrach na’ch busnesau arferol).

Felly- peidiwch a chael braw pan mae’r tic yn diflannu!

Newid arall…i fewnwelediadau tudalennau

Trydarodd Matt Navarra ddoe am rai newidiadau diddorol i fewnwelediadau Facebook ar gyfer tudalennau busnes hefyd. Dyma’r dyfyniad o’i drydar:

‘Mae Facebook yn newid sut mae’n cyfrifo argraffiadau organig gan olygu y bydd yn debygol o ddangos dirywiad.’

Yn gryno, maen nhw’n gwneud newidiadau i’r ffordd y mae eu algorithm yn cyfrif argraffiadau tudalennau organig, er mwyn bod yn unol â mewnwelediadau’r hysbyseb hefyd. Felly, er y gallai eich niferoedd ostwng, byddan nhw lawer yn fwy cywir mewn gwirionedd – dim mewnwelediadau dyblyg o argraffiadau tudalennau organig ac argraffiadau hysbysebu.