Roeddem yn falch iawn o fedru noddi’r Circus Starr ar eu hymweliad a Wrecsam yn ddiweddar ar ddiwedd Medi 2018. Ond beth neu pwy yw Circus Starr? Gallwch ddarganfod mwy trwy ymweld â’u gwefan yma, ond yn fyr maent yn syrcas teithiol anhygoel (gyda pherfformwyr ac artistiaid o’r radd flaenaf) sy’n darparu seddi am ddim i filoedd o blant dan anfantais, anabl neu bregus – yn ogystal â chodi arian ar gyfer elusennau lleol ar y ffordd!

Sefydlwyd y syrcas yn ôl yn 1987 ac mae’n sefydliad di-elw sy’n helpu busnesau lleol ac elusennau plant lleol. Dros y 12 mlynedd diwethaf maent wedi codi dros £ 900,000 o arian ychwanegol ar gyfer elusennau, yn ogystal â gweithio gydag ystod o hosbisau plant, cartrefi maeth, ysgolion ADY a mwy. Felly pan ddaeth yr alwad am noddwr, ni allwn wrthod. Mae noddi yn rhoi’r cyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, a gobeithio y byddwn ni’n gallu cefnogi’r gwaith gwych y mae Circus Starr yn ei wneud trwy noddi’r sioe hon ac un arall i ddod yn Llandudno yn 2019.

 

[siteorigin_widget class=”SiteOrigin_Widget_Image_Widget”][/siteorigin_widget]
[siteorigin_widget class=”SiteOrigin_Widget_Image_Widget”][/siteorigin_widget]
[siteorigin_widget class=”SiteOrigin_Widget_Image_Widget”][/siteorigin_widget]