Mewn byd lle mae’r cyfryngau cymdeithasol yn uchel ar y rhestr flaenoriaeth, mae llawer o fusnesau neu sefydliadau bach yn anghofio am bwysigrwydd optimeiddio peiriannau chwilio (SEO). Felly,  dyma flog byr gyda rhai ffeithiau SEO rhyfeddol,  fydd yn gwneud i chi ail-werthuso pwysigrwydd gweithio ar SEO eich gwefan.

Ffaith 1: Ni fydd 75% o ddefnyddwyr byth yn mynd heibio i dudalen gyntaf chwiliad. Mae hon yn ystadegyn eithaf brawychus, os nad ydych chi ar dudalen gyntaf y canlyniadau chwilio.

Ffaith 2: Mae peiriannau chwilio yn gyrru mwy o draffig o 300% (ie, 300%) o’i gymharu â’r cyfryngau cymdeithasol. Nid yw hynny’n golygu y dylech hepgor  y cyfryngau cymdeithasol a symud at SEO.  Ond mae’n ffaith …

Ffaith 3: Mae 87% o ddefnyddwyr ffonau clyfar yn gwneud chwiliad ar beiriant chwilio o leiaf unwaith y dydd, sy’n synnu neb gan fod  ceisiadau chwilio mor hawdd i’w cael ar ffonau clyfar.

Ffaith 4: Bydd 70 i 80% o ddefnyddwyr yn anwybyddu hysbysebion â thâl ac yn mynd yn syth i’r canlyniadau organig.

Ffaith 5: Mae 81% o brynwyr yn gwneud chwiliad ar-lein cyn prynu rhywbeth mawr/costus.

Blog byr , ond mae’r 5 ffaith uchod yn rhyfeddol. Angen help llaw gyda’ch SEO? Cysylltwch â ni heddiw.