Rydym i gyd yn gyfarwydd â’r ystadegau bod cyfnodau canolbwyntio yn fyrrach nawr, yn enwedig o ran aros i wefannau lwytho. Yn ôl yr ystadegau hynny, nid yw hanner defnyddwyr y rhyngrwyd yn barod i aros 2 eiliad i gynnwys y wefan lwytho, sy’n golygu bod 50% yn cau’r tab neu’n clicio yn ôl yn syth (gwiriwch eich cyfraddau bownsio yn eich offer dadansoddol i weld beth yw eich cyfradd adlam, gellid ei gysylltu â’ch cyflymder llwytho). Ond, pam ddylech chi boeni?

  1. Cyflymder y wefan yw’r argraff gyntaf a wnewch – os yw’ch gwefan yn araf i lwytho, a dyma’r tro cyntaf i rywun ymweld â’ch gwefan ar-lein, yna mae’r argraff rydych chi wedi’i rhoi yn un araf ac yn lletchwith. Ydy hyn hefyd yn adlewyrchiad o sut mae eich busnes yn gweithio? Nac ydyw ôl pob tebyg (wel, gobeithio ddim), ond cofiwch fod argraffiadau cyntaf yn cyfrif – all-lein ac ar-lein.
  2. Nid yw gwefannau araf yn annog trosiadau– trosiad yw pan fydd rhywun yn ymweld â’ch gwefan ac yna’n prynu eitem, neu’n cysylltu (yn y bôn, yn cwblhau eich meysydd gweithredu). Os yw gwefan yn araf, mae’n  diflasu y rhai hynny sy’n ceisio gwneud hyn ar eich gwefan. Ac ymhellach, wyddoch chi bydd 40% o bobl yn  gadael eich gwefan os bydd yn cymryd mwy na 3 eiliad i lwytho? Dyna chi  ormod o ymwelwyr i golli!
  3. Mae cyflymder y wefan yn effeithio ar eich safle Google. Gwir, canran fach ydyw o’ch safle cyffredinol, ond mae popeth yn cyfrif! Yr hyn sydd o bwys yma gyda Google yw po arafaf bydd eich gwefan yn llwytho (enwedig os yw’n cymryd dros 2 eiliad), yna bydd yn anfon llai o we-ymlusgwyr i’ch gwefan. Bydd eich blogiau a’ch newyddion diweddaraf yn cymryd llawer mwy o amser i Google gatalogio.
  4. Mae profiad defnyddwyr (UX) yn hynod bwysig y dyddiau hyn ar-lein, ond mae cael gwefan araf yn lladd y profiad hwn. Fe allech chi fod â gwefan arbennig o gyffrous ond os yw’n cymryd amser i lwytho yna pwy sy’n mynd i drafferthu ymweld a hi?!
  5. Yn olaf, rydym yn disgwyl cyflymder. Bydd 47% o bobl yn disgwyl i’ch safle lwytho mewn llai na 2 eiliad, tra bydd 40% yn ei adael yn gyfan gwbl os yw’n cymryd mwy na 3 eiliad. Wyddoch chi hefyd fod 85% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn disgwyl i safle symudol lwytho yr un mor gyflym, neu’n gyflymach nag ar eu bwrdd gwaith!

Mae’r pum pwynt uchod yn pwysleisio pa mor pwysig ydy hi  bod eich gwefan yn llwytho’n gyflym = nid yn unig cyflymder eich gwe-letya ond maint eich delweddau a’ch cynnwys hefyd. Os ydych chi’n llwytho delwedd sy’n 1MB o ran maint, o’i gymharu â 97KB, yna bydd yn cymryd mwy o amser i lwytho. Os hoffech chi gysylltu â ni i drafod  optimeiddio gwefannau neu optimeiddio peiriannau chwilio, anfonwch e-bost atom.

Un peth arall, mewn byd o argymhellion a mân-siarad, os yw cyflymder eich gwefan yn lladd eich trawsnewidiadau ar-lein, mae’n bur debygol bydd pobl hefyd yn llai tebygol o’ch argymell  all-lein!