D’ach i’n cofio’r  “amser segur” (downtime) ddigwyddodd ar draws Facebook ac Instagram y diwrnod o’r blaen (barhaodd ychydig dros 10 awr!)? Roedd yn ein hatgoffa ni fel marchnatwyr digidol i beidio â  bod yn or-ddibynnol ar un peth. Ar draws y platfformau roedd brandiau (ac eraill), yn mynd yn wallgof gan nad oeddent yn gallu postio, rhoi sylwadau nac ymgysylltu â’u cwsmeriaid yn eu ffordd arferol. Fe wnaeth i ni feddwl, faint ohonynt oedd yn dibynnu ar Facebook neu Instagram yn unig fel eu hunig ffordd o farchnata ar-lein?

Byddwn bob amser yn awgrymu bod brandiau a busnesau yn defnyddio amrywiaeth o platfformau cyfryngau cymdeithasol, fel arfer, cymysgedd o Facebook, Twitter ac Instagram. Yn dibynnu ar y math o fusnes, efallai y byddwch am ddefnyddio YouTube neu blatfform gwerthu fel Etsy. Ond yr hyn sy’n bwysig yw sicrhau fod gennych bresenoldeb ar fwy nag un platfform cyfryngau cymdeithasol. Pam? Wel, mae gan bob blatfform ei chynulleidfa wahanol, felly yr un egwyddor a sicrhau nad ydych yn dodi’ch wyau i gyd mewn un fasged ydyw! I gyrraedd y gwahanol gynulleidfaoedd, mae angen i chi fod yn lledaenu’ch presenoldeb ar draws y platfformau cyfryngau cymdeithasol.

D’yw hynny ddim yn  golygu ein bod yn eich annog i fod fel pla ymhob man! Buan dewch i weld y bydd un platfform yn gweithio’n well i’ch busnes nag eraill, ond cofiwch sicrhau eich bod yn treulio peth amser ar y platfformau eraill y byddwch yn eu dewis hefyd. Wrth gwrs, os nad yw’r  platfform wirioneddol yn helpu’ch busnes ac yn mynd a’ch amser a’ch egni, yna dewch oddi arno.

Awgrym da: peidiwch â phostio’r un cynnwys ar yr un pryd ar bob platfform. Y tebygolrwydd yw bod eich cynulleidfa yn gwirio Facebook ac yna Twitter (er enghraifft), ac mae gweld yr un cynnwys yn ddiflas. Addaswch, newidiwch ond mae croeso i chi groes-hyrwyddo ble bynnag arall ydych chi!