Un o’n prif nodau eleni yw sicrhau ein bod yn gwneud defnydd llawn o Instragram Reels – yn ogystal a TikTok mae’n debyg, er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd, ynghyd a helpu i addysgu’r gynulleidfa sydd gennym eisoes, hefo cynnwys hwyliog.
Gyda hynny mewn golwg, roedden ni’n meddwl y byddai’n ddefnyddiol rhannu blog gyda rhai o’n cynghorion gorau ar gyfer reels!
- Cael hwyl – byddwn bob amser yn dweud hyn am gyfryngau cymdeithasol, ond cofiwch hefyd bod rhaid i’ch cynnwys Reels fod o ddefnydd i’ch cynulleidfa. Beth sy’n gyfleus yw, mai chi sy’n penderfynu – oherwydd y peth da am gyfryngau cymdeithasol yw ei fod yn cynnig cyfle gwych i arddangos eich personoliaeth a gadael i bobl ddod i’ch adnabod yn iawn. Felly, mae angen cydbwysedd da rhwng cael hwyl a darparu cynnwys defnyddiol i’ch cynulleidfa.
- Goleuo– mae cael goleuo da yn bwysig ar gyfer Reel. Rydych am i’r ennyd 1-2 eiliad yna (pan fydd rhywun yn penderfynu a ddylid sgrolio ai peidio) fod yn drawiadol a chreu argraff!
- Tueddiadau Sain – cofiwch fanteisio ar y tueddiadau, ond byddwch yn ymwybodol y bydd pawb arall hefyd. Un awgrym fyddai, os ydych chi’n sylwi ar sain sy’n trendio nad oes ganddo lawer o Reels eto, gwnewch! Beth bynnag, os oes ganddo dros 50k neu fwy, ystyriwch ymhellach gan y byddwch yn cystadlu â llawer mwy o bobl ar y sain honno!
- Cadwch y camera’n llonydd – ceisiwch beidio â symud y camera o gwmpas yn ormodol tra’n sefyll neu eistedd. Gall darfu a thynnu gormod o sylw.
- Edrychwch ar y camera –dewch o hyd i ble mae’r camera ar eich ffôn (ar y top fel arfer) ac edrychwch ar hwnnw pan fyddwch chi’n gwneud Reel, NID ar eich sgrin! Mae cynnwys rhywfaint o gyswllt llygad yn ffordd wych o gysylltu â’ch cynulleidfa
Mae llawer mwy o gymorth ar gael wrth gwrs a byddwn yn postio mwy eto mewn blog arall – a cofiwch- cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol hefyd!