Roeddem wrth ein boddau i dderbyn y newyddion ddoe fod Kerry  wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Busnes Cymru 2018, yng nghategori Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn! Nod Gwobrau Busnes Cymru yw cydnabod y gorau o fusnesau ledled Cymru. Mae Gwobrau Busnes Cymru yn llwyfan ardderchog i unrhyw fusnes sy’n dymuno tynnu sylw at eu cyflawniadau, meincnodi yn erbyn y gystadleuaeth, gwobrwyo eu timau a chael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.

Mae bob amser yn wych bod yn rhan o ddigwyddiad o’r fath, ac rydym yn  edrych ymlaen yn eiddgar i gwrdd a’r enwebiadau eraill yn y rownd derfynol  ar draws yr ystod o gategorïau.

Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr Derfynol!