Blwyddyn newydd sbon! Rwy’n caru’r flwyddyn newydd, mae bob amser yn teimlo fel dechreuad newydd – syniadau’n byrlymu, optimistiaeth ar gyfer y posibiliadau dros y 12 mis nesaf, a llechen lân yn y swyddfa (fel arfer gyda llyfr nodiadau newydd). Gyda hynny mewn golwg, rwyf bob amser yn hoffi edrych pa ‘dueddiadau’ sydd ar y gweill ar gyfer gwefannau a chyfryngau cymdeithasol – beth fydd yn boblogaidd dros y misoedd nesaf y gallwn eu defnyddio? Beth sydd angen i ni ei gadw mewn cof ar gyfer ein cleientiaid, a phan byddwn yn cynllunio strategaethau ac ymgyrchoedd? Wel, gadewch i ni gael golwg sydyn ar rai o’r tueddiadau mwyaf poblogaidd.
Tueddiadau Gwefan
Tuedd ddiddorol sy’n cael sylw yw’r cynnydd mewn gwefan un dudalen – sy’n dileu y gofyn am dudalennau, a sydd yn hytrach yn dibynnu ar sgrolio trwy un dudalen am y wybodaeth. Mae’r gwefannau hyn yn aml yn llai cymhleth, ond gallent fod yn dra effeithiol. Rydym wedi creu nifer dros y flwyddyn ddiwethaf, enwedig ble rydym yn teimlo y byddai cleientiaid yn elwa o ddyluniad un dudalen, yn hytrach na chreu gwefan faith ble gall neges pwysig fynd ar goll oherwydd yr angen i geisio llenwi swm penodol o dudalennau.
Tuedd arall y gwelir llawer ohoni yw ‘balchder lle’ neu bersonoliaeth. Am gyfnod, roedd gwefannau yn eithaf amhersonol, ond mae symudiad araf yn awr tuag at wneud y wefan yn fwy sgwrsiol, mwy agos at a phersonol gan ychwanegu’r balchder hwnnw o le. Mae elfennau fel ffontiau wedi’u hysgrifennu â llaw, neu ddelweddau sy’n awgrymu lleoliad penodol (e.e. Aberystwyth) yn rhan o’r duedd hon.
Mae llawer o’r tueddiadau disgwyliedig ar gyfer 2022 yn seiliedig ar ddylunio, ond y duedd olaf yr wyf am grybwyll yw’r ymgyrch fawr arall tuag at optimeiddio – gwneud eich gwefannau’n gyflymach i’ch ymwelwyr a rhoi profiad defnyddiwr rhagorol iddynt. Mae optimeiddio wedi bod yn bwysig erioed wrth gwrs, ond gyda newidiadau pellach i algorithm Google yn 2021, mae cyflymder llwytho tudalen yn parhau i fod ar flaen y gad. Os oes gennych wefan, ystyriwch edrych ar sut y gallwch ei optimeiddio ar gyfer cyflymder a phrofiad defnyddiwr. Er enghraifft, lleihau maint eich delweddau er mwyn llwytho’n gyflymach. Nid yw’n golygu cael gwefan newydd ond yn hytrach gweithio gyda’r hyn sydd gennych er budd eich ymwelwyr.
Tueddiadau Cyfryngau Cymdeithasol
Mae Cymuned ar gynnydd – os bu i chi fynychu unrhyw un o’m gweminarau yn ystod 2020 a 2021, fe gofiwch i mi siarad llawer am bwysigrwydd cymuned a grwpiau. Mae’n duedd sy’n dal i gynyddu gyda llawer o sôn pa mor bwysig fydd adeiladu cymuned o amgylch eich brand, waeth beth yw maint eich busnes. Rhaid cofio mai prif nod cyfryngau cymdeithasol yw bod yn gymdeithasol ac adeiladu perthynas â’ch cynulleidfa darged – yn y bôn adeiladu cymuned.
Mae cyfryngau cymdeithasol yn rhan bwysig iawn o unrhyw strategaeth marchnata digidol os ydych chi’n gwerthu ar-lein. Wyddoch chi’n bod 81% o siopwyr wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn 2020 er mwyn dod o hyd i gynnyrch newydd? Y cam nesaf yw gwneud y pryniant hwnnw’n haws. Mae hwn yn dueddiad mawr ar gyfer 2022, gyda disgwyliadau y bydd defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn disgwyl prynu eich cynnyrch yn uniongyrchol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae Facebook eisoes wedi cyflwyno nodwedd y Siop llynedd, a gallwch brynu cynnyrch yn uniongyrchol oddi yno, ac erbyn hyn ar Instagram a TikTok hefyd.
Tuedd arall sy’n parhau yw fideo. Ond, yr hyn rydym wedi’i ddysgu yn ystod 2020 a 2021 yw bod yn well gan gynulleidfaoedd fideos ffurf fer (o dan 2 funud). Er gwaethaf y gobaith y byddai fideos hirach yn ennill poblogrwydd, platfformau fel Instagram yn newid IGTV a phlatfformau eraill yn tynnu fideos ffwrdd, mae’n amlwg fod fideos ffurf fer yma i aros. Sut felly allwch chi ei gynnwys yn eich strategaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf?
Y duedd olaf yr wyf am sôn amdano yw’r cynnydd yn y cyfryngau cymdeithasol sain (audio social media). Meddyliwch am sioeau radio, trafodaethau neu bodlediadau – ond trwy eich platfform cyfryngau cymdeithasol. Lansiwyd Clubhouse yn 2021 ac mae wedi dod yn boblogaidd fel platfform cyfryngau cymdeithasol sain ar-lein. Cyflwynodd eraill nodweddion sain, er enghraifft Spaces ar Twitter. Mewn byd lle rydym yn cael llond bol ar ddelweddau wedi’u hidlo’n drwm a chynnwys wedi’i guradu’n uchel, rydym yn gwyro’n fwyfwy tuag at cynnwys sain mwy dilys ac ymgysylltiol.
Pa dueddiadau fydd yn cyd-fynd â’ch strategaeth marchnata digidol ar gyfer 2022?