Rydyn ni wrth ein bodd bod Kerry wedi cael ei gwahodd i siarad yn y Digital Women, Digital Skills Summit  (Uwchgynhadledd Sgiliau Digidol Menywod Digidol) ar Fehefin 30ain- digwyddiad rhithwir a drefnir gan Digital Women, sydd fel arfer yn trefnu uwchgynadleddau ddwywaith y flwyddyn yn Llundain. Bydd Kerry yn siarad am sut y gallwch chi symud eich gwefan ymlaen i’r lefel nesaf am 2pm ddydd Mawrth!

Mae Digital Women yn sefydliad i aelodau sy’n canolbwyntio ar rymuso, twf a llwyddiannau menywod ym myd busnes a digidol. Dechreuodd Kerry fynychu’r digwyddiadau Digital Women yn 2019, ac ers hynny mae wedi dod yn aelod sefydlu o’r aelodaeth Digital Women newydd. Os ydych chi’n ferch sy’n gweithio ym maes digidol, mewn unrhyw swyddogaeth, rydym yn argymell yn gryf dod yn rhan o’r gymuned wych yma. Gallwch ddod o hyd i Digital Women ar Facebook, Twitter, Instagram a LinkedIn, ac mae ganddynt grŵp bywiog a phrysur ar Facebook hefyd.

Mae Digital Women yn sicr wedi dyrchafu ein presenoldeb ar-lein, ac mae Kerry bellach yn gweithio gydag ystod o aelodau ‘menywod digidol’ yn eu cynghori am bopeth digidol yr ydym yn arbenigo ynddo – rheoli cyfryngau cymdeithasol / marchnata ac SEO.

Oherwydd mai gwefannau yw ein bara menyn, roedd yn hollol naturiol pan ofynnwyd iddi siarad, i siarad am wefannau! Felly, yn ystod sesiwn sgiliau Kerry, bydd hi’n rhoi gwybod i chi sut y gallwch chi fynd â’ch gwefan i’r lefel nesaf.

Mae’r uwchgynhadledd sgiliau yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, gyda 22 o siaradwyr yn ystod y dydd yn gyfan gwbl! O brofiad, bydd angen llyfr nodiadau arnoch chi gyda llawer o le a beiro inc!

Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer sgwrs Kerry.